Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Efemlydd Cymre Rhif. io.] " i" chwi y danfonwyU Gair yr Iachawdwriaeth ho%r [Hydref, 1883, RHANOLYTHYR HOWEL HARRIS, TREFECCA, AT MR. T., MYNACHLOG, RHAG. 10, 1740. Yr ydym yn feunyddiol yn sefyll mewn angen o Ysbryd Duw i ddangos i ni ein trueni, ac i'n cynorthwyo i orchfygu pechod, a.chynyrchu gras ynom fel ag i ymddwyn yn ol gras pan yn gweithio ynom ; ac hefyd ein gwneuthur a'n cadw megys dim yn ein golwg ein hunain. Golwg ar ein Gwaredwr yn marw drosom, a'i fawr gariad yn maddeu i ni, sydd foddion i'n gwneuthur i adael ein holl eilunod, a'i garu Ef a'n holl galon ac a'n holl enaid. Pa fodd y gallwn ni ei garu Ef os nad ydym wedi ein dwyn i gredu ei fod Ef yn ein caru ni ? Ffydd ydyw ffynonell pob gras a phob ufudd-dod gwirioneddol. Anghrediniaeth ydyw prif ffynonell holl wrthryfelgarweh acanufudd- dod. Ychydig yr wyf yn weled ag sydd yn argyhceddedig o ddrwg y pechod o anghrediniaeth, er ei fod yn gwneuthur Duw yn gelwyddog, ac yn gwadu ei holl berffeithiau gogoneddus ! gwneuthur Gair Duw, a gweddio a phregethu, yn ddirym ! caua y galon yn erbyn Crist; tywylla y meddwl; dystrywia gariad Duw ; estrona ni oddiwrtho Ef"! a maetha hunan-gariad, chwant, ofn gwasaidd, a chariad bydol ynom ! Fe rwystra gyn)Tdd mewn gras, a rhydd i Satan fantais arnom. Mae y mwyafrif yn tybied mai amheu, yr hyn yw ffrwyth anghrediniaeth, ydyw bod ar sylfaen ddyogel! Lle y dylai pawb fod yn sicr eu bod tu allan i Grist, neu ynddo. Y mwyafrif a dybia mai trwy weithio yr eir i'r nefoedd, ac nid trwy gredu; gweithio am fywyd, yn lle gweithio yn dyfod fel canlyniad o fywyd Crist yn y pen, a hunan yn y gaíon, ofer ydyw i ymgyrhaedd am santeiddrwydd, hyd ne& y ceir gwreiddyn sanjeiddrwydd ynom, yir hyn yw ffydd. Nis gallwn gynyddu mewm santeiddrwydd ỳan nad ydpn mewn cyflwr & gyfiawnhad. CYDYMDDYDDAN RHWNG FFERMWR A'R EFENGYLYDD O BERTHYNAS ì AIL DDYFODIAD CRIST. Penod IV. Ffermwr. Dydd da i chwi, Syr. Diolch i chwi am y goleuni a gawsom trwy yr ymddyddan diweddaf. O ! mor esgeulus. yr ydwyf fl wedi bod pan yn darllen Gair Duw—dylaswn sylwi ar bob gair. Yr ydwyf yn gweled mwy o ogoniant yn y Llyfr nag erioed. Nid rhyfedd i'r Salmydd ddweyd, " Ti a fawrheav?fc. <ìy Air uwchlaw dy enw oll" (Salm cxxxviii. 2.." Gwelaf yn awr yn eglur feddwl yr adnod yn Daniel xii. 2 : " A ilawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddefíroant, rhai i fywyd tragywyddol, a rhai i warth a dirmyg tragywyddol." Y mae cyfnod maith rhwng y rhai a ddeffroant i fywyd jtragywyddol a'r rhai a ddeffroant i warth. a dirmyg tragywyddol, yr un peth ag a ddangosoch y tro diweddaf am y ddwy awr yn Ioan v. 28, 29 ; ac hefyd y tro cyn hyny dangosoch yn eglur am yr Arglwydd Iesu yn y synagog yn Nazareth, wedi iddo ddarllen " blwyddyn gymeradwy iyr Arglwydd," yn cau y llyfr yn ddisym- jwth cyn darllen y frawddeg oedd ,yn canlyn, sef" a dydd dial ein Duw ni.'" Y mae blwyddyn gymeradwy yr Arglwydcl yn barod wedi para dros ddeunaw cant o flynyddau, ac felly y mae hyny o amser rhyngddi a " dydd dial ein Duw ni." Diolch ein bod ni yn awr yn mlwyddyn gymeradwy yr Arglwydd, neu yr awr \W