Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DRYCH. Rhif. XVI.] MEHEFIN. [1826. Y GWR CYFQETHOG YR HWN A FU FARW MEWN TLODI TRAGYWYDDOL. Ryw lawer o amser yn òl, yr oedd dyn cyfoethog1 iawn yn byw yn y wlad yr hwn a elwid Deifes; yr hwn oedd yn gwneuthur ymddangosiàdau hardd-wych,—canys ef'e a " wisgid â phorphor a lliain main, ac yr oedd yri cymmeryd byd da yn helaeth- wych beunydd." Gall dyn fod yn dra chyfoethog, ac etto yn aros dan anfoddlonrwydd ofnadẅy Duw hollalluog. Felly yr ydoedd gyàa Deifës ; canys er i Dduw roddi iddo lawer o bethau da y bywyd hwn, er hyirny i gyd dyn drwg ac annuwiol ydoedd Deifes, heb ddim cariad at Dduw na'i wasanaeth. Yr oedd hyn yn amlwg, canys er fod ganddo ddigone(jd o arian i brynu pethau uchei-bris at wasan- aelh ei balas mawr ; ynymha un yr oedd yn byw, ac i gynnal ei gefFylau a'i gwn, etto ni roddai gymmaint a'r briwsion a syrthiai oddiar ei fwrdd, i'r rhai hynny, y rhai oedd yn marw o eisiau bara. Yr oedd hyu yn dra annuwiol a phech- adurus,—canys y mae Duw wedi gorchym-