Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YIi HANESYDD CENADAWL, RHIF. XVI.—RHAGFYR, 1830. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. TU HWNT I'R GANGES, ClIINA. Rhanau o Lylhyr oddiwrth y Parch. Ro- bert Morrison, D. D. at y Trysorydd; dyddiedig Canton, China, Mawrth 27, 1830. Fy Anwyl Gyfaill, Bore heddyw bûm yn darllen dydd- lyfr a gadwai Leang-afa, yn yr hwn rnae yn cadw cyfrif o'r hyn niae yn wneyd bob dydd, ac o rai o'r ymddi- ddanion a fydd rhyngddo â'i gyd-wladwyr eilun-addolgar. Bydd rhai yn codi gwrthddadleuon annwybodus a didduw- ìaidd; ac eraill, er eu bod yn gweled yr efengyl yn ffordd mwy rhagorol nac addoli eulunod, etto cedwir hwynt rhag gwneyd proff'es o honi gan ofn dyn, gwawd eu cymmydogion a'u perthynasau, yn nghyd a'r rhwystr a íýddai cadw y pedwerydd gorchymyn yn beri i'w ha- chosion bydoi hwy. Mae yr hen wr, tad Afa, wedi cael ei dyneru mòr belled ag i addoli Jehofah, er ei fod ar yr un pryd yn parâu i addoli yr eilunod mae y Mandariniaid yn eu haddoli. Nis gall efe ddim meddwl bod yn iawn iddo ef dybied ei hun yn ddoethach na'r ymherawdr a'r Mandarin- iaid. Mae y Parch. Mr. Bridgman, yr hwn sydd yn genadwr am ei einioes, yn ymddangos yn ymroddgar iawn i'w waith. Mae efe tuag 28 oed. Mae Mr, Abeel, y gweinidog Henaduriaethol, a ddanfonwyd at y morwyr yn China, yn 9A oed. Nis goddef ei iechyd iddo ef lafurio môr galed a'r cenadwr aralJ. Mae eu dyfodiad hwy i'r wlad hon, cyn tÿ marw I, yn rhoi lle i mi obeithio na àd Arglwydd mawr y cynauaf ddim o'r maes hwn heb weithwyr, hyd oni chasgler llawer i mewn, hyd oni chaííb Crist weled o lafur ei enaid yn nhröed- igaeth liawer o blith y cenedloedd, a chael ei ddiwallu. Mae Mrs. Morrison, a'r plant anwyl, yn ami yn afiach ; ond hyd yma yn cael eu cadw mewn bywyd. Gyda theimladau serchiadol, a chan obeithio, anwyl gyfaill, cael cyfarfod â chwi yn y nefoedd, trwy i-as ein Harglwydd Iesu Grist, Ydwyf, yr eiddoch yn ffyddlawn, (Arwyddwydd) Bobert Morrison". Llythyr oddiwrth y Parch. Mrd. Elias Bridgman a David Abeel, cenadon Ame-\ ricanaidd, at y cofiadur Tramor; dydd- iedig, Canton, Chìna, Mawrth 2tì, 1830. Anwyl Syr, Mae yn llawen genym, for yr amser wedi dyfod, yn nhrefn rhagluniaeth ddaionus Duw, pryd y gall cenadon yr Arglwrydd Iesu, a ddanfonwyd allan gan eich brodyr Americanaidd, eich cyfarch chwi o China. Gwedi mor-daith fer a hyfryd, cyrhaeddasom yma ar y 25 o'r mis diweddaf. Yn foreu y boreu dran- oeth, cawsom ein cyfymweliad cyntaf â'ch cenadwr cbwi, yr hwn a'n derbyn- iodd ni gyda serchiadau tadol a brawdol, ac a roddodd i ni y croesaw mwyaf calonog i faes newydd ein llafur. Ác, anwyl Syr, yr oedd yn adeg werthfawr, pryd yr oeddem yn cael cydymgrymu wrth orsedd gras, ar y fath amser, ac yn y fath le. Danfonwyd ni allan i'r wlad bellenîg hon gan wahanol gymdeithasau; un o honom gan Gymdeithas yr Ewyllyswyr da i Forwyr America, yr hwn sydd i lafurio o leiaf am un fiwyddyn, yn Canton a Wampoa, ac yna ymadael os bydd efe yn dewis, neü ynte ymuno yn y gwaith mawr o efengyleiddio y pagan- iaid. Mae y llall yn perthyn i Gym- deithas Genadol Dramor America. Chwi a gewch glywed yn dd'iau, mewn