Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RI-IIF. VI___MEHEFIN, 1028. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. INDIA Y DWYliAIN. SüRAT. Talfyriad o Lythyr Mrd. W. ac A. Vyvie at y Cyfarwyddwyr, dyddiedig Surat, Hydrcf 1,1327. ANWYL FttODYR, Er nas gallwn fynegi i chwi am ddim pethau neillduol wedi disgyn ar feddyliau y bobl hyn am eu cyflwr tragy wydíàol, er iechydwriaeth pa rai yr ydym ynllafurio ac yn gwedd'io, na rhoddi hanes ~'\ chwi am ymadawiad trigolion'y ddinas a'r dalaeth boblog hon âg eilun-addoliaeth ; etto, gan yr ystyriwn mai ein dyled a'n braint y\v ysgrifenu attoch, yr ydym yn danfbn i chwi yr hanes bỳr a ganlyn o'n llaf'ur yn ystod y tíwyddyn ddiweddaf, yr hon a ddybenodd ddoe. Phegethu. Dechreuwn ein H adroddiad gyda'r rhan hon o'n llafur, a thàn y pen hwn yr ydym yn cynnwys pob cyfraniad geiriol o wir- ioneddau yr Efengyl, pa un bynnag ai ar fin y fFordd, mewn temlau a llëoedd eireill o gyrchiad cyhoeddus, ai ynte àr amserau ac mewn mànau sefydledig. Y moddion cyson sydd genym drwy yr wythnos, ydynt,—ar y Sabbath, oedfa Saesoneg am unarddeg y bore ; am ddau prydnawn mae genym addoliad yn y iaith Goojuratt, gyda'r gwasanaeth-ddynion a berthyn i'r Genadaeth a'r teuluoedd cenadol; am hedwar, yr ydym yn cyfarfod â phlantyr Ysgol yn yr Ysgol-dy cyntaf; ac yn yr hwyr, addoliad cyhoedd drachefn yn Saesonaeg. Bore dydd Llun, mae o gylch 200 o bobl dlodion yn cyfarfod wrth y Ty Cenadol, i dderbyn clusen, ac yr ydym yn llafaru wrthynt am bethau tragywyddol eu cyflwr: haelioni ychydig swyddogion crefyddol sydd yma, yw yr elusenau hyn gan nnwaf', ac y mae cymdeithas a cfiyfeill- ach y swyddogion hyn yn galondid mawr i ni yn ein gwaith. Prydnawn dydd llun, mae genym fbddion yn yr ail Ysgol-dy, lle mae Uawer yn dyfod i wrando ar ein haddysg- Nus Eercher, mae genym oedfa gyda'r gwasanaethydd- ion : a nos lau, addoliad cyhoedd yn yr Ysgol-dy cyntaf. Heblaw y moddion sefydlog hyn, yr ydym yn pregethu unwaith bob wythnos mewn tỳ annedd, ac amryw fànau ereill, ond mae y modd- ion yn cael eu trefnu yn ol amgylchiadau. Wrth ymweled â'r Ysgolion, yr ydym yn cael mynych gyfieusderau i gyfranu addysg i laweroedd. Yn misoedd lonawr a Chwefror, teithiodd Mr. A. Fyvie tua 500 o fill- tiroedd, trwy ranau o dalaeth Goojuratt, lle y cafodd aml gyfleusderau i bregethu •* anchwiüadwy olud Crist" i laweroedd na chlywsent eriod o'r blaen am iechyd- wriaeth trwy ff'ydd yn nghyfiawnder ac iawn Mab Duw. Yr oeddynt yn gwrando y gwirionedd yn dda iawn; ac yr ydym yn gobeithio na bydd i'r ymdrechiadau hyn yn Surat a'i hamgylchoedd, fod yn gwbl ddi les. •• Had anllygredig—gair Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn paràu yn dragywydd," yw yr had a hauwyd, ác a hauwn etto drwy gymmorth, ac nid oes arnom eisiau dim ond dylanwadau addawedig yr Ysbryd Glân, i heri iddo dyfu, a dwyn ffrwyth toreithiog. Am y dawn arbenig hwn yr ydym yn gweddio; ac yn attolygu ar bawb sydd yn '• caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb," i gyduno â ni i weddio Duw am y fendith fwyaf angenrheidiol hon, i bawb sydd yn clywed y gwirionedd, yn y rhan hon neu unrhyw ran arall o'r byd. Dosparthiad Ysgrythyrau a Thracthodan. Dosparthasom 1000 o ranau o'r Ysgry- thyrau, a òtìOO o Draethodau, yn Surat a'i chyfhniau ; ac yn mharthau tumewnol y wlad, 3000 o ranau o?r ysgrythyrau, ac 11,000 o Draethodau; y cwbl yn gwneyd 4000 o ranau o air Duw, "ac 16,600 o Draethodau i'w egluro a'i LLYFRWrU. PNfOLAlTHOL