Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. XVII.—MAWRTII, 1831. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDATN. Tybiòdd y Cyfieithydd bod darfod ar yr Hanesydd cenadawl yn niwedd y flwyddyn ddiweddaf. Dywedai Cyfarwyddwyr y Gymdeithas mai felly y byddai ar ddiwedd y flwyddyn—bod y gost o'i argraífu yn fawr iawn—nad oedd y casgliadau o Gymru ddim mwy ar ol ei gael nag oeddynt o'r blaen cyn ei gael—ac nad oedd dim o eisìau y fath Gyhoedd- iad yn Gymraeg yn Nghymru, bod pawb o'r Cymry ag sydd yn cynnorthwyo y Gymdeithas yn deall Saesoneg ynddigon da i ddarllenyr hanesion cenadawl yn yr iaith hòno. Mae yn werth sylwi mynyd ar bob un o'r pethau uchod:—Mae yn wir bod y gost o gyfieithu ac argraíFu yr Hanesydd Cenadol yn lled fawr; tua chant o bunnau yn y flwyddyn, neu drosodd, meddant. Ond nid yw hyny ddim llawer at y swm a ddanfonir o Gymru bob blwyddyn tu ag at gynnorthwyo y Gymdeithas. Ac nid yw ond ychydig iawn at y gost sydd ar y Gymdeithas i argraífu ei Chyhoeddiadau Saesonig bob blwyddyn, y rhai ydynt yn rhy aml i'w lienwi yma.—Os gwir yw y dywediad, nad yw casgliadau y Cymru ddim chwaneg ar ol cael yr Hanesydd Cenadol nag oeddynt o'r blaen, mae hyny yn beth gofidus iawn yn sicr. Y bwriad wrth ei gychwyn oedd, chwanegu y casgliadau ; a gwystlodd un gwr parchedig ei air, y byddai y casgliadau yn helaethach : ac yn awr, os nad ydynt, gwell yw rhoddi terfyn arno, a pheidio myned i gost chwanegol ac afraid.—Mewn perthynas i fod y rhan fwyaf o'r Cymry ag sydd yn cynnorthyo y Gymdeithas yn deall Saesoneg, mae yn bur sicr mai anwiredd y w hyny ; ac enllib hefyd, ar gannoedd o'n cydwladwyr: oblegid, pe na byddai neb yn cyfranu tu ag at y Gymdeithas Genadawl, ond y rhai sydd yn deall Saesoneg, mae yn debyg na wnelid 1400, neu 1500 o bùnnau bob blwyddyn gan líh corph o bobl; heb son am yr amryw gannoedd a wnair gan enwad arall o bobl yn Nghymru. Mae yn sicr bocî cantoedd lawer o'r Cymry tlodion, y rhai ni fedrant braidd air yn y byd ond yn y Gymraeg, yn cyfranu yn haelionus aty Gymdeithas Genadol, ahyny o'u prindera'u hangendirfawr. Ac wedi y cwbl, dyma haeriad noethyn cael ei wneuthur i'r Saeson, bod agos i báwb o'r Cymry.ag sydd yn cynnorthwyo y Gymdeithas, yn deall ei Chyhoeddiadau Saesoneg. Beth yw hyny ond dywedyd, nad yw y nifer uniaith (y nifer liösocaf o lawer eíallai) o'r Cymry, yn gwneyd dim yn y gwaith da hwn. Dywedwyd hefyd i'r Cyfieithydd, yn y Ty Cenadol, a chan nn o brif Swyddogion y Gymdeithas, bod y nifer amlaf o'r honeddigion, a enwyd fel Cyfarwyddwyr Cymreig y Gymdeithas, gwedi Jsgrifenu o blaid rhoddi teríyn ar yr Hariesydd Cenadol. Pa un a ydynt