Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. XV.—MEDI, 1830. CYMDEITIIAS GENADAWL LLUNDAIN. Cylch-wyl Flynyddawl y Gymdeithas. Dydd Llun, Mai y lOfed, yn yr hwyr, dechreuwyd y Gylch-wyl hon, drwy gadw cyfarfbd gweddi, am ddylanwadau addaw- edig yr Ysbryd Glân ar y Gymdeithas, ac ar bob sefydiiad cyffelyb. Cadwyd y cyfàrfod hwn yn Nghapel y Ponltry, lle gweddiodd pump o hen weinidogion duwiol; nid amgen, Winter, Platt, Humphreys, Slatterie, a Bull. lthoddid yr Plymnau allan gan y Parch. J. Moris- on. BûRE DYDD MERCHER, y 12fed, traddodwyd pregeth ragorol yn Nghapeí y Pareh. Itowland Hill, gan y Parch. Hugh Heugh, A. C. o Glasgow : ei des- tyn oedd loan xvii. 17. Dÿ air sydd •wirionedd. Ond nis gallwn roddi sylwedd yr un o'r pregethau, am y cadwai hyny ormod o le y newyddion tramor, Nos Fercher, pregethodd y Parch. Thomas Adlcins, o Southamton, yn y Tabernacl, Mooifields; ei destyn oedd, Salm cxix. 136. Afonydd o ddyfroedd a redasant o'm llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di. Bore dydd Iau, y lSddeg, cynnal- iwyd cyfarfod lli'osog iawn, yn Nghapel y Wesleyaid, City Itoad, i glywed yr Adroddiad am lafur a helyntion y Gym- deithas am y flwyddyn derfynedig, ac i enwi ei Swyddwyr, &c. ara y fiwyddyn hon. Traddodwyd areithiau rhagorol yn y cyfarfod hwn, gan tua 18 neu 20 o wahanol ddynion, o'r doniau ardderchocaf yn y bycl, ac amrai o honynt wedi bod ar led yn mhlith y paganiaid. Nos Iau, traddodwyd pregeth drachefn, yn Nghapel y Bendefiges Huntingden, fel ei gelwir, yn Spafields; gan y Parch. James Sherrnan, o Ueading: ei destyn ef oedd, Caniad Solomon, i. 4—Ni a gofiwn dy gariad. Bore dydd Gweneh, y 14ddeg, bu pregeth yn yr Eglwys Seíỳdledig, fel arferol, St. Paul's, Covent Garden. Y pregethwr oedd y Parch. John Hatchard, A. C. Periglor St. Andrew, Plymouth: ei destyn oedd Luc viii. 11—Yrhad yw gair Duw. Nos Wener, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd fel arferol, mewn chwech o wahanol Gapelydd ; gan nad oedd yr un Capel yn Llundain na'i hamgylchoedd yn ddigon mawr i gynnwys y lliaws Cymunwyr: ac fel hyn y terfynodd yr wyi f'awr hon eto eleni, sef yr unfed wyl ar bymtheg ar Imgain, o ddechreuad y Gymdeithas. Casgliadau a wnaed ar y Cyfar- fodydd blaenorol. Ar y Cyfarfod Gweddi yn Nghapel y Toultry....... 33 16 0 Capel Surrey.............. 394 8 2 Tabernacl................ 105 0 0 Capel y City Road..........224 6 1 Capel Spafìelds............ 93 17 10 St. Paul's, Covent Garden-- 52 5 10 Capel Sion, (Sacrament) • • • • 78 0 6 Capel Orange Street........ 86 1 0 Capel Paddington.......... 132 11 0 Capel Islington............ 60 8 11 Capel St. Thomas's Square (Hackney)............... 30 0 0 Capel Rennington..........101 12 6 Capel Silver Street♦........ 28 8 8 Capel Gate Street.......... 10 0 0 Capel Union (Islington)"-. 72 12 0 P1503 8 6 Holl dderbyniadau y Gym- deithas yn ystod y flwyddyn a aeth hcibio oedd......P48226 0 2 Er bod y swm uchod yn edrych yn ddirfawr i bobl gyff'redin, eto, nid yw ond ychydig at yr amcanion ehang sydd yn ngolwg y Gymdeithas ardderchog hon. Cofiwn eiriau ein Iachawdwr, *« y maes yw'r byd !" a chwrteithio