Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. XI.—MEDI, 1829. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. AFFRICA DDEHEUOL— YMADAWlAD Y Dli. PHILIP. Mae yn hysbys i ddarllenwyr hanesion cenadol, fod y gwr parchedig uchod wedi ymsefydlu yn Nhref y Penrhyn (Cape Town) yn Affrica, er ya amrai flynydd- oedd yn ol, fei Arolygwr y Cenadon a'r gwaith cenadawl yn y wlad bellenig hòno. Tua thair blynedd yn ol, daeth drosodd i Loegr ar y neges glodfawr a dyngarol, o ymdrechu cael gan Lywodr- aeth Prydain Sefydlu yr un rhydd- freinliau personawl,'gwladol,a chrefyddol i drigolion cynfrodorawl Aü'rica, a'u gosod dàn yr un nodded a díogelwch à deiliaid ereiil Lloegr sydd yn cyfanneddu yn y wlad hòno. Gwedi ysgrifenu yn helaeth am y camwri a'r creulondeb a ddyoddefai trigolion Affrica, o eisiau cyfreithiau gwell; Uwyddodd ef a'r Gymdeithas Genadol gyda'r Llywodr- aeth, i gael yr amcan daionus uchod i ben yn hollawl ; yr hyn a fydd o ddirfawr les i'r Affricaniaid truain, ac yn hwylusdod mawr i'w haddysgu mewn gwybodaeth grefyddol a chelfyddydol. Gwedi gorphen y neges bwysig hon, mae y Doclor Philip yn bwriadu dychwelyd yn fuan bellach i Affrica ; ac yn cymmeryd gydag ef ddau genadwr ieuainc o Loegr, tri o Ffrainc, (y cenadwyr protestanaidd cyntaf erioed o'r wlad hòno;) a phump o Germany, yn gwneuthur i fynu ddego gwblheblaw ef ei hun. Pan' oedd y Dr. Philip yn cyfarch y tri gwr ieuanc o Ffrainc, ac yn addunedu cymmeryd eu gofal, gèr gŵydd y cyfarföd mawr yn Nghapel y City Road, dydd lau, Mai y 14eg, yr oedd el' â hwythau, ac agos yr holl gynnulleidía l'iósog, wedi toddi mewn dagrau. Yíbrjd ;r Arglwydd, ddedwydd ddawn, A'i iaclawdwriaelh, luniaolh lawn ; A fyddo gyda'r rhai'n i gyd, A'r holl Cìeundon dro» y byd. O herwydd ymadawiad bwriadol y Dr. Philîp a'i gyd-genadon, ac hefyd o herwydd dychweliad diweddar George .Bennet, Ysw. yr hwn a fu gyda'r diweddar Barch. Daniel Tyerman, yn ymdaith dros y Gymdeithasyn ygwledydd tramor er ys agos i vvyth mlynedd; cynnaliwyd cyfarjbd neillduol yn Nghapel y Parch. lioẃland Hill, dydd Mawrth, Mehefìn y 9fed, i'r dyben o ymadael a'r naill, ac i groesawu dyfodiad y llall. Am unarddeg yn y bore, cymmerwyd y eadair gan Drysorydd y Gymdeithas, W. Alers Hanlcey, Ysw. ac wedi canu Emyn genadawl; darllenodd y Parch. George Collison y 67 Salm, a gwedd'íodd. Gwedi hyny traddodwyd pregeth i'r cenadon ymadawol gan y Parch. John Clayton. Ei destyn oedd Joshua i. 9. Penau y bregeth oedd fel y canlyn— 1. Yr awdurdod uchcl dàn ba un yr oedd y cenadon yn gweìthrcdu: Gorchymyn Duw,—2. Yr amcan oedd ganddynt Vto gyflawni: Agoryd llygaid dynion, eu troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw.—3. Y cynnorthwyon oeddynt i'w dìsgwyl yn eu gwaith : Yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi.—-4. Y cyd- ymdewiladau à'r gwedd'iau aneirif a fyddai gyda hwynt, a throstynt :--Ac yn olaf, Y gwobr oedd yn eu haros i'w fwynáu : Tröedigaeth y paganiaid trwy eu hofferynoldeb hwy, a gwynfyd tra- gywyddol yn y nef Gwedi gorphen y bregeth, cododd y Dr. Philip i fynu, a thraddododd araith ragorol iawn, ac effeithiol anghyffredin ; yn dangos meddwl tra gwrol a chalonog, ac ysbryd Uwyr ymroddgar i'r gwaith cenadol. Ond, gan fod gorchymyn, na byddo nemawr ond hanesion tramor yn yr Hanesydd Cenadawl Cymraeg, a'r áraith hòno yn faith iawn, nis gellir rhoddi Ue iddi yn y papyryn hwn: ac felly rhaid dywedyd am yr holl areithiau i gýd. Ar oi y Dr. Philip, cyfarchodd un o'r cenadwyr ieüainc y cyfarfod, mewn araith Ffreinig, yr hon a gyfieithid gan y Parch. Mark Wilka. Yna