Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. X.—MEHEFIN, 1829. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. INDIA 'R GOULLEWIN. Berbice. ìlhanau o Lylhyr oädìwrth Mr. Wray at y Trysorydd, dyddiedig, Berbice, Mehejin 11, 1828. Yn Berbice, mae pethau yn myned yn mlaen fel arferol. Mae ein pobl ni yn gyffredin, yn rhodio yn íFyrdd yr Arglwydd, ac y mae llawer o gaethion (slaves) yn ddifrifol awyddus am addysg ysbrydol. Bu un o'n haelodau farw yn ddiweddar, yn ffydd Iesu ; ond chwaneg- wyd un arall attom, y mis diweddaf, yn ei lle; a thrôdd y Sacrament allan .yn fendithiol ac yn adnewyddol iawn i'n heneidiau. Bydd yn llawen genych glywed bod ein hysgoldy Sul, dàtl y capel, wedi ei orphen, ac i ni gael yr hyfrydwch o'i agor, Sul, y laf o Fehefin. Traddodais araeth i'r plant ac ereill, gyfaddas i'r achlysur. Yr oedd rhai o'r plant yn disgwyl y buasai casgliad, a chwedi dwyn eu harian; gwnaethom gasgliad ar y Sul canlynol, yr hwn oedd yn 18 florin, deg stiver (pa faint yw hyny, nis gẃyr y cyfieithyddj By(id yn dda genych glywed bod yr Is-lywydd Beard, ac Anrhydeddus Gyngor y Llywodraeth, wedi bod mòr haehonus a rhoddi i mi Fil o guilders, at dalu y gost. Mae hyn yn anrhydeddus iawn iddynt, ac yn brawf o ddymuniad y Llywydd â'r Cyngor i gynnyddu a phleidio dysgeidiaeth yn mhlith y graddau iselaf o'r bobl; ac yn sicr, dyma'r peth gorau a allant wneyd i wellâu cyflwr y caeth-ddynion, ac i leiâu gofìdiau caethiwed. Yr ydym ni yn sicr, yn llafurio dàn fawr anfanteision, o eisiau nifer digonol 0 athrawon duwiol a gwresog; ond y mae genym ychydig, ac yr ydym yn gobeithio y bendithia Duw y moddion l'r plant a'r bobl sydd yn dyfod yn nRhyd. pe byddai genym ni ugain o athrawon duwiol a da, trwy fendith Duw, ni wnelem ryfeddodau mewn dysgu y genedl sydd yn codi. Yr ydym yn gweddío am i'r Arglwydd godi llawer at y gwaith mawr hwn, ei waith ef ei hun. Cyn i'r Iiywodraeth ddanfon y rhodd i mi at yr ysgol, darfu i un o aelodau y Cyngor ddanfon i mi joe, (tua phùm punt> Ithai personau ereill hefyd a'n cynnorthwyasant : danfonodd un gwr tua mil o droedfeddi o goed, y rhai oedd wasanaethgar i'r gwaith. Gobeithio y bydd yr adroddiad uchod yn gymmeradwy gan y Gymdeithas, ac yn galondid iddi fyned yn mlaen yn ngwaith yr Arglwydd yn y dreí'edigaeth bòn. Mae rhodd y Cyngor yn werth- fawr iawn genym ni, fel yn dd'iammau y bydd genych chwithau, gan ei fod i'r unig ddyben o ddysgu y caethion yn gystal ag ereill, i ddarllen ; ac y mae yn sicr yn brawf o'u cymmeradwyaeth hwy (y Cyngor) o'n llafur ni yn y rhan hon. Gobeithio y bydd i drefedigaethau ereill ddilyn esampl Cyngor ein Llywodraeth INDIA 'R DWYRAIN. Bangaloue. Rhanau o Lythyr oddiwrth Mr. Reeve at y Cojiadur Cartrefol, dyddiedig, Bangalore, Chwefror, 28, 1828.' Lr pan ddychwelais o gyfarfod Dir- prwywyr Dosparthol Madras, bûm ar un daith genadol, o tua chant ag ugain milltir o helaethder, mewn ffordd, mae'n debyg, na chlyẅwyd sain yr Efengyl erioed o'r blaen. Yr oedd rhai o'r trefydd, lle y treuliais ddiwrnod neu chwaneg, yn fawrion iawn, a'r cynnulleidfâoedd a ddeuent yn nghyd i wrando, yn lled l'iosog. Ni bu dim nodedig iawn i'w adrodd yn ymddygiad y bobl yn y daith hon. Yn y rhan fwyaí' o fànaû, derbynid Biblau a thraethodau