Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. IX.—MAWRTH, 1829. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. MADAGASCAR. Marwolaeth y Parch. Daniel Tyerman, un o Ddirprwywyr y Gymdeithas i Foroedd y De, fyc. fyc. Blin a gofidüs iawn yw gan y Cyfarwyddwyr hysbysu y newydd galarus o farwolaeth y Parch. Daniel Tyerman, yr hyn ddygwyddodd yn Madagascar, ar y 30ain o Fis Gorphenaf, 1828, yr hwn gyda Geo. Bennèt, Ysw. a fu yn llafurus ac yn wasanaethgar iawn am fwy na saith mlynedd, yn ymweled â Gorsafoedd Cenadawl y Gymdeithas yn Moroedd y De, yn nghyd â'r rhai tu draw i'r Ganges, yn India y Dwyrain, y Mauritius, a Madagascar. Cwynai Mr. Tyerman pan ddaeth i Madagascar, gan anwyd, a gwendid mawr, Deallwyd yn fuan mai y parlys mud (Apoplexy) ydoedd ei glefyd, ac er defnyddio y moddion arferol, ehedodd ei ysbryd ymaith megys rhwng dwylo ei gyfeillion, heb ymdrech, poen, nac ochenaid. Gan ei fawr wendid, nis gallodd lefaru ond ychydig yn ei salwch : ei eiriau diweddaf a ellid ddeall oeddynt, " Mae pob peth yn iawn. Y cyfammod—Y cyfammod gras." Dydd Gwener, Awst y laf, claddwyd ef yn barchus gan y Cenadon, rhoddwyd ei gorph i orwedd yn ymyl tri ereill a syrthiasant fel yntau yn ngwasanaeth y Gymdeithas Genadol. O gylch yr un amser hefyd bu farw Radama, brenin Madagascar, ond mae y frenines wedi anfon cenadwri Swyddol at y cenadon, i ddywedyd, pa bethau bynnag a wnaethai y brenin o blaid y cenadon, y gwna hi yr un pethau, a mwy. INDIA 'R DWYRAIN. Pigion o Lythyr y Parch. Daniel Tyerman a George Bennet, Ysw. Dirprwywyr y Gymdeithas i Ynysoedd Môr y üe, $& Sçc. dyddiedig Mauritius, Rhagfyr 7, 1827. (Parâdo Tu dal. 119.) Quilon. Mae y sef'yllfà genadol yn gyfleus iawn o ran iachusrwydd ac awelon y mòr, gan ei bod ar làn y traeth. Mae Mr. Ashton yn byw yn un o'r tai (Bungalowi), ac yr ydym yn disgwyl y bydd i Mr. a Mrs. Thomson, y rhai oeddynt i hwylio yno o Madras ddau ddydd neu dri ar ol i ni ei gadael, breswylio yn y llall. Mae naw o ysgolion ,ä bechgyn yn perthyn i'r genadaeth hóiì, yn cynnwys pedwar cant a hanner o blant; ac un ysgol merched, wedi ei dechreu yn