Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HANESYDD CENADAWL, RHIF. IV.—RHAGFYR, 1827. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. YE INDIA DDWYilEINIOL. BENGAL, &C. Pigion o Lythyr oddiwrth y Parch. D. Tyerman a George Bennet, Ysw., Ym- webjddioìi y Gymdelthas i'r Moroedd Deheuol, India, fyc.; at yr Ysgrifenydd diweddar, dyddiedig Calcutta, Rhagfyr yr iil, 1826. (Terfyniad o du dal, 42.) Benares. Au ein dycbweliad i'r lle hwn, der- byniwyd ni yn groesawus i dy Mr. Ädams, ile yr arhosasom bythefnos. Yr oedd Mr. a Mrs. Adams yn dirion iawn o honom. Ymwelasom â'r rhan fwyaf o demlau yr eilunod, a'r Ilëoedcl ereill o gyrchiad crefyddol, perthynol i'r Hindŵ- aid a'r Mahometaniaid. Yr oedd yr olwg ar y fath dorfêydd o eilun-addolwyr gwrthun, yn ymgreinio yn y fath sodd- fêydd o annwybodaeth a choel-grefydd, ac yn cael eu gorthrymu gàn o gylch wyth mil o Erahminiaid (deugain mil rhwng eu teuluoedd !) yn alarus yn wir ; ond ni a fýnem obeithio fod diwedd i hyn yn fuan. Mae ychydig belydr o oleuni sanctaidd, er hyny, yn dysgleirio yn nghanol' y tywyllwch hyn. Mae Mr. Smlth, Cenadwr yn "perthyn i Gymdeithas y Bedyddwyr, yn áròs yn ninas Benares, ac y mae yn genadwr addas, d'íysgog, a llwyddiannus, o wylder mavvr, ac o ddoniau cyfrifol. Mae ganddo ysgolion i'r brcdoriaid; ac y mae yn gyson yn ymweled â'r temlau (GhautsJ, y march- nadlëodd (Bar.aars), a'r gwleddoedd (Melas), i ymddiddan, i bregethu, ac i ddosparthu traethodau a rhanau o'r ysgrythyrau yn yr Hindostanaeg, &e. Mae y I'arch. Mr. Adlington, y cenadwr Eglwysig yma, yn dëafi iaith y wlad hon yn dda iawn; mae ganddo amrai ysgolion brodorawl yn perthyn i'r genadaeth, mewn treí'n dda; inae ganddo amrai sefydliadau argraffyddav/l, ac y mae yn pregethu ddwy waith ar y Sabbath i'r brodorion, yn y Capel cenadawl. Mae efe yn ymddangos yn genadwr effeithiol iawn, yn ei foddi ei hun i fynu yn hollawl i addysgu y brodorion yn eu hiaith en hunain. Mae yma heí'yd, dan gyfarchwyliaeth Mr. Adlington, ysgol í'awr gynnýs- gaethawl, lle y dysgir y Persiaeg, y Sans- crit, yr Hindostanaeg, yr Hindŵaeg, ac y Saesonaeg, i o gylch dau cant o ieüenctid. Baboo a roddodd y lle, a chynnysgaethwyd y Sefydliad gàn ei fab ef." Heblaw hyn, mae Llywodraeth l'rydaìn yn rhoddi dau cant o rupìs y mis,* felly nid yw y Gymdeithas yn dwyn dim o'r draul. Ar yr un pryd, mae yn ddywenydd gallu dywedyd, "fod yr Ýsgrythyrau yn cael eu harfer, ac addysg Cristionogol yn cael ei roddi yn mhob rhan o'r Sefydliad hwn. Yr oeddem ni yn llawen sŷnu wrth glywed y plant brodorol, y rhai sydd yn dysgu Saesonaeg, mòr gyfarwydd yn egwydd- orion Cristionogaeth, athrawiaeth â dyledswyddau, ac hefyd yn JVg7iatechis?nau y Gymmanfa, a'r eiddo y Dr. Watts. Mae gan Mr. Adams, (yr hwn ni bu yn llafurio yma cyhyd a chenadon y Cymdeithasau ereill) bìtmp o Ysgolion, ac y mae yn ymweled â gwyl-wleddoedd (Melas) yr Hindwaid, i ddosparthu traethodau. Cawsom y boddineb o fyned i un o'r gwleddoedd hyn gyda' Mr. Adams; yr oedd Mr. Adlington hefyd, a^ Mr. Bowley o Chunar, yno. Cafodd Mr. Bowley ddadl led fywiog â rhai o'r Brahminiaid, yn yr hon yr oeddyna yn dëall fod y Brahminiaid yn Ùorfbd tewi, os nad eu hargyhoeddi. Nid yw Mr. Adams etto wedi dechreu pregethu i'r brodorion; ond y mae yn llafaru yn Saesonaeg i gynnulleidfa feclian o filwyr, * Rupl sydil 2s. oc. o ariau Lloejrr mcdd N. lÌAiLEY, í'olly mao dau gant yu 12p. lOs.