Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tíl HANESYDD CENADAWL, RHIF. I.—MAWRTH 1827. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. Yr oedd hiraeth 'mawr yn Nghymru er ys blynyddoedd, a chŵyn gofidus gàn filoedd o'r rhai nad ydynt yn deall yr iaith Saesneg, am gael yr Hanesydd Cenadol (Missionary Chronicle) yn Gymraeg. Nid oeddynt wedi cael mantais i wybod ond ychydig am gyflwr truenus y Paganiaid ; nac am weith- rediadau a llwyddiant y Gymdeithas Genadol. Mae yn wir y byddai y Pregethwyr yn ceisio dywedyd hyny a allent am yr achos pan fyddent yn casglu at gynnorthwyo y Gymdeithas; ac weithiau byddai papyrun bychan yn cael ei ddosparthu, yn cynnẁys ychyâig o hanes, ac annogaethau, o flaen y casgliad blynyddol: heblaw hyny, nid oedd gan y Cymry un-iaith yr un fantais i wybod hanes yr achos mawr hwn. Yr oedd y rhai oedd yn dëall Saesneg yn cael hyfrydwch mawr wrth ddarllen yr Hanesydd Cenadol Misol, a byddent yn ceisio adrodd yr hyn a allent o'i gynnwysiad yn eu teuluoedd ac i'w cymmydogion; byddai rhai yn ceisio cyfieithu rhanau o hono yn eu cyfarfodydd gweddi misol, yr hyn a berai lawenydd mawr i lawer: ond mewn llawer ardal, ni chaid neb a allai ei gyfieithu; a byddai y bobl yn barod i wylo o eisiau cael rhywun a fedrai roddi iddynt hwythau wybodaeth o'i gynnwysiad. O'r diwedd, gosodwyd eu cŵyn gerbron Cyfarwyddwyr (Directors) y Gymdeithas, y rhai wrth ddeall, ac ystyried amgylchiad y Cymry; a ddangosasant eu parodrwydd i wrando eu cŵyn: a phenderfynasant i gyfieithu swm yr hanesion tramor a gynnwysir mewn tri Rhifyn misol saesneg, i'w cynnwys mewn un íthifyn Cymraeg, i'w argraflu bob tri mis. Weithian, disgwylir i'r Cymry wneuthur y defhydd goreu o honynt, sef eu darllen yn fanwl ac yn ystyriol; ymddiddan am y pethau rhyfedd a fyddo ynddynt yn eu teuluoedd, a chyda 'u cyfeillion a'u cymmydogion, &c. Yna mae lle i obeithio y byddant yn foddion i adfywio Sèl y Cymry yn yr achos Cenadol, i beri gweddio yn amlach ac yn daerach, am ledaeniad yr Efengyl drwy y byd, a'i llwyddiant i ddinystrio teyrnas y tywyllwch, ac i sefydlu teyrnas Crist yn mhob gwlad, ac yn mhlith pob cenedl drwy yr holl ddaear : ac hefyd i beri i'r rhai a allo, helaethu eu rhoddion at yr achos Cenadol. Disgwylir, o leiaf, y bydd cymmaint o chwanegiad yn y casgliadau Cenadol, ag a fyddo o draul i argraffu yr Hanesydd Cenadol yn Gymraeg, fel na byddo y Gymdeithas yn ei cholled wrth gyflawni dymuniad a chais y Cymry yn hyn. Er bod miloedd o'r Cymry yn gwneuthur yr hyn a allant, etto, mae Ilawer a allant wneuthur mwy; bydded i'r Hanesydd Cenadol Cymraeg fod yn foddion