Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLEIDIAËTH. 85 PLETDIAETH. Dro'n o.l cyhoeddwydun o bregethau John Wesloy, yn yrhon, debygem. y dangosid mai dyledswydd a braint y Ẃesleyaid yw ymuno â'r Eglwys Wladol. Mewn adolygiad ar yr hon yn yr H. C. yr ydym yn cael yr hyn a ganiyn •.— "Mae cryn ymdrech wedi cael ei wneyd yn ddiweddar gan rai Eglwys- wyr er cyfanu y rhwyg a gymerodd le rhyngddynt hwy a'r Weslëyaid oddeutu canrif yn ol; neu, a defnyddio iaith y rhai blaenaf, dwyn y defaid a gyfrgollwyd yn ol i'w corlan ddechreuol. Deallwn fod rhai Wesleyaid hefyd yn bur awyddus i'r undebhwn, ac yn dadleuyn egniol o'i blaid ; ond ymddengys nad yw corff yr enwad yn ei ddymuno o gwbl, tiac yn malio dim yn ei gylch. Credant y gall yr undeb dirgeledig a. gwir anghenrheidiol hwnw sydd rhwng plant Duw fodoli ar wahân i ryw undeb ff'urfìol, arwynebol, a gweledig a wneir gan ddynion ; a chredant hefyd y deillia mwy o gysur iddynt hwy a lles i'r byd trwy i bethau barhau fel ag y maent yn awr. Yn hyn yr ydym yn hpllol gydsynio â hwy. Credwn fod llawer o wir yn yr hyn a ddywedodd yr enwog Spurgeon o Lundain yn ddiweddar—" Yr wyf yn bendithio Duw (meddai) fod cjrnifer o wahanol enwadau crefyddol yn y byd. Oni bai fod dynion yn gwahaniaethu ychydig yn eu credoau creíÿddol, ni ddeuai cymaint o efengyl byth i'n rhan." tìallasai ychwanegu, hefyd. na welsid yn y byd gymaint o lafur ac ymdrechiadau o blaid teyrnas y Gwaredwr, oni buasai am y gwahaniaethau dibwys sydd yn bodoli rhwng dilynwyr Crist. Tra ar faes y rhyfel, ac yn myd y gweithio, credwn fod rhyw anghenrheidrwydd am iddynt fod yn fath o gatrodau gwahanol; ond wedi iddynt fyned i orphwys fry, efallai y symudir yr anghenrheidrwydd hwnw, bydd yr undéb sydd yma " o ran" yno yn berífaith a chyfangwbl. Ond er nas gallwn gydsynio â rhai pur dda yji yr.Eglwys Wladol o berthynas i'r hyn sydd yn cyfansoddi undeb Cristionogol, eto nis gallwn lai na'u hoin a'u parchu oblegyd eu llafur yn mhîaid yr hyn a dybiant hwy sydd briodol ac anghenrheidiol: ac ydynt yn gwneyd hyny o gariad at Dduw a lles eneidiau, mawr fydd eu gwobr yn ddiameu. Cyfieithwyd y bregeth ragorol hon o eiddo yr anfarwol John Wesle)' ffan " Un a hoffai weled y rhwyg a wnaethpwyd wedi marwolaeth Mr. Ẁesley, yn cael eiadgyweirio dr,achefn, trwy.ddychweliad y Wesleyaid i gymundeb yr Eglwys," agwnaeth ei ran yn dda. Mae y cyfieithiad yn ystwyth a dealladwy iaẁn, a chredwn ei fod wedi Hwyddo i gadw at y meddwl gwreiddiol yn gywir. Mae y bregeth hon fel yr oll o rai Wesley, yn werth ei darllen a'i chofio." Yr ydym yn credu fod y dyfyniad uchod yn dangos beth yw bai*n y cyÉfredin a.m bleidiaeth. Os yw y syniad yn gywir.y mae yn gasgliad naturiol y dylem bleidio " pleidiaeth ;" os nad yw yn írywir, y mae yn canlyn y dylem ymdrechu yn lew dros und'eb didwyll a chyflawn ar ysylfaen safadwy hono, sef " lesu Grist." Ond gaclewch i ni ystyried yr hyn a ddywcdir yn y dyfyniad uchod o blaid " pleidiaeth/' " Credant," meddai, "y gall yr undeb dirgeledig a gwir anghenrheidiol hwnw sydd rhwng plant Duw fodoli ar wahân i ryw undeb ffurfìol, arwynebol, a ^weledig a wneir gan ddynion ; a chredant hefyd y deillia mwy o gysur iddynt hwy a lles i'r byd trwy iddynt aros fel y macnt." Cyf. IV. Rhif. 8, Awst, 1861.