Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU. 97 SYLWADAU AR MATH. XIX. 27-30. Parhad o tu dal. 88. II. Yr adeg yr oedd y cyfnewidiad, neu yr adenedigaeth i gymeryd lle.—" Pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant." Y mae dynion yn amrywio yn eu barnau ar hyn, fel pethau ereill. Y mae rhai, trwy gysylltu y gair adenedigaeth à'r geiriau blaenorol iddo, yn ei ddyall am adenedigaeth y dysgyblionyn bersonol, ac felly ei adeg yn amrywio. Ereill, er y cytunant i gysylltu ygair â'r ym- adroddion dylynol iddo, eto ni chytunant gyda golwg ar natur y cyfnewidiad neu yr adenedigaeth, ac o ganlyniad yn amrywio gyda golwg ar yr adeg yr oedd y cyfnewidiad i gymeryd lle. Barna rhai mai cyfeiriad y sydd yma at adgyfodiad y meirw, pan y bydd Mab y dyn yn clyfod ar gymylau y nef, ac yn eistedd ar ei or- seddfainc i farnu y byd. Ereill a ddywedant ei fod yn cyfeirio at yr adfywiad cyffredinol hwnw, yr hwn, meddant, a gymer le yn nechreu y milflwyddiant, pan y daw Crist i deyrnasu ar y ddaiar am ysbaid mil o flyneddau. Ereill, gyda gwell seiliau, feddyliwn i, a ddywedant, mai cyfeiriad y sydd yma at ddyddimiad goruchwyl- iaeth Moses, yn nghyda gosodiad i fyny yr oruchwyliaeth efengyl- aidd, neu gychwyniad teyrnas y Mesiah. Yr oedd y cyfnewidiad ar gymeryd lle, pan oedd yr Arglwydd Iesu yn ymddyddan â'i ddysg- blion yn y geiriau tan sylw. Baich gweinidogaeth Ioan y Bedydd- iwr oedd, fod teyrnasiad y nefoedd gerllaw. Yr Arglwydd Iesu ei hun hefyd oedd yn pregethu, gan ddyweyd, " Edifarhewch, canys nesàodd teyrnas nefoedd." Pan oedd ef yn neillduo yr Apostolion, gorchymynodd iddynt, gan ddywedyd, " Eithr ewch yn hytrach at ddefaid cyfrgolledig tỳ Israel. Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, fod teyrnas nefoedd yn nesâu." Felly hefyd yr anfonodd efe y deg a thri ugain allan i gyhoeddi yr un peth. Yr oedd yr adeg, gan hyny, yn ymyl. Ond cyn sefydlu yr oruchwyliaeth newydd, rhaid oedd lladd yr Aberth sefydledig, oblegyd lle y byddo y cyfryw sefydliad rhaid yw dygwyddo marwolaeth yr Aberth sefydledig. Gan fod sefydliad yn cael ei gadarnhau uwch ben y meirw, nid oes grym ynddo tra fyddo yr Aberth sefydledig yn fyw. Pan oíFrym- wyd Aberth y sefydliad neu y cyfamod newydd, rhoddwyd pen ar bob aberth, " Oblegyd hwn âg un ofírwm a berífeithiodd yn dra- gwyddol y rhai sy gwedi eu santeiddio." "Ac y mae yr Ysbryd Glân yn tystiolaethu i ni," meddai'r apostol, "canys wedi iddo ddy- wedydo'r blaen, Dyma y cyfamod yr hwn a amodaf fi à hwynt ar ol ydyddiau hyny, medd yr Arglwydd, Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu calonau, ac a'u hysgrifenaf yn eu meddyliau, efe a chwan- ega, a'u pechodau a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwy- ach. A lle mae maddeuant am y rhai liyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod;" hyny yw, nid oes mwyach anghenrheidrw}'dd am aberthau; gan fod offryiniad corff Iesu Grist unwaith " wedi tynu Rliif. 9, Oyf. III.—Medi, 1860. •