Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU. 85 SYLWADAU AR MATH. XIX. 27-30. Yr hyn a achlysurodd lefariad y geiriau hyn, ydoedd gwaith un yn dyfod atyr Iesu (rhyw lywodraethwr, meddai Luc,) a gofyn iddo, gan ddywedyd, " Athraw da, pa heth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol P" Yr Iesu a ddywedodd wrtho, " Paham y gelwi íì yn dda P nid da neb ond un, sef Duw; ond os ewyllysi fyned i fewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion." Yna gofynodd y llywodraethwr, " Pa rai ? A'r Iesu a ddywedodd, Na ladd, na odineba, na ladrata, na ddwg gam dystiolaeth, anrhydedda dy dad a'th fam, a châr dy gymydog fel ti dy hun." Y gwr ieuanc addywedodd wrtho, " Mí a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengtyd; beth y sydd yn eisieu i mi eto P" Yr Iesu a ddywedodd wrtho, " Os ewyllysi fod yn berffaith, dôs, gwerth yr hyn y sy genyt, a dyro i'r tylodion; a thi a gai drysor yn y nef: a thyred, canlyn fì. A phan glybu y gwr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth ymaith yn athrist, canys yr oedd efe yn perchen da lawer." Yna dywedodd yr Iesu wrth ei ddysgyblion, " Yn wir mcddaf i chwi, mai yn anhawdd yr à goludog i fewn i deyrnas Ddmo." Mae Marc yn chwanegu, gan ddywedyd, " 0 blant, mor ánhawdd yw i'r rhai sydd â'u hymddiried yn eu golud fyned i fewn i deyrnas Dduw ? Y mae yn haws i gamel fyned drwy grai y nod- wydd, nag i oludog fyned i fewn i deyrnas Dduw." A phan glybu y dysgyblion y pethau hyn, synu a wnaethant yn ddirfawr, a dywedyd, " Pwy gan hyny a all fod yn gadwedig P A'r Iesu a edrychodd arnynt ac a ddywedodd wrthynt, " gyda dynion anmhosibl yw hyn, ond gyda Duw pob beth y sy bosibl." Gan fod y dysgyblion yn canfod, trwy yr amgylchiad. hwn, fod meddianau a chyfoeth y gwr ieuanc yn agos at ei galon, yn gymaint felly, fel yr oeddryn dewis yn hytrach eu cadw yn ei feddiant, er ei fod drwy hyny, yn ymddifadu ei hun o fywyd traywyddol, yr oedd yn naturiol iddynt ofyn i'r Iesu, gan ddywedyd, " Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di, beth gan hyny afydd i ni ?" Neu, beth gan hyny, fydd ein gwobr ni ? Er nad oedd y dysgyblion yn meddu ond ychydig o bethau y byd, rhai o honynt fe ddichon, ddim ond ychydig daclau pysgota; eto yr oedd eu byicioliaeth yn dybynu ar yr ychydig oedd ganddynt, fel yr oedd bywioliaeth y gwr ieuanc yn dybynu arei feddianau a'i gyfoeth. Yr oedd Mathew, mae'n debyg- ol, wedi gadael swydd enillfawr, sef casglu trethi. Mae y dymon y sydd yn cyflawni y swyddi hyn, yn y cyffredin, yn lled dda allan. Ond y mae yn dra thebygol fod swydd Mathew yn gymaint uwchlaw swydd casglwyr trethi, yn ein plith ni, ag ydyw teyrnged uwchlaw trethi plwyfol. Ond pa un bynag am hyny, yr oedd ganddynt oll dyluoedd, tad, mam, gwraig, plant, brodyr, a chwiorydd. Yr oedd gan bob un o honyut y naill neu'r llall o'r perthynasau yna—rai o honynt, fe ddichon, yr oll, ac yr oedd eu hanwyldeb tuag atynt, eu serch mor glymedig wrthynt; yr oedd eu teimladau mor fyw wrth Ehif. 8, Cyf. III.—Awat, 1860.