Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRAWIAETH YE AP0ST0LI0N. 25 ATHRAWIAETH YR APOSTOLION. " Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaetli, ac yn nghymdei'has yr apostolion, ac yn tori bara ac mewn gweddiau."—Act. ii. 42. Tiia yn darllen yr adnod uchod yn hanes ffurfiad a sylfaeniad yr eglwys Gristionogol gyntaf yn y byd, cyfododd y gofyniadau canlynol yn fy meddwl •.—Beth oedd athrawiaeth yr apostolion P A oes gwa- haniaeth rhwng athrawiaeth yr apostolion âg athrawiaeth crefyddwyr y dyddiau presenol. Ac, a ydyw athrawiaeth yr apostolion yn rheol ffydd ac ymddygiad Cristionogion ai peidio ? Er mwyn bod yn fwy manwl a sicr yn fy ymchwiliad, cymerais yr ysgrifell i'm llaw, a dodais yr atebion ar bapyr. Ymddangosai yn bwnc pwysig; oblegyd gan fod yr Ysbryd Glân wedi tueddu Luc i graífu ar ymddygiad y tair mil wedi eu hedifeirwch a'u trochiad i enw Iesu, gan ddywedyd eu bod yn "parhau yn athrawiaeth ac yn nghymdeithas yr apostol- ion, ac yn tori bara, ac mewn gweddiau," mae yn rhaid fod amcan mawr mewn golwg. Yn wir, yr oedd gweithredoedd a geiriau yr apostolion yn ysbrydoledig—yn esiamplau a chyfarwyddiadau i barhau hyd ddiwedd amser. Hwy a weithiasant (ac a ysgrifasant) i fodoliaeth, mewn ufydd-dod i'w comisiwn oddwrth Grist, holl gy- nwysiad y Testament Newydd, o ddiwedd yr efengylau hyd at y Datguddiad. Felly, yn gymaint a bod gwcithrcdocdd ac cpistolau yr apostolion wedi eu dyogelu gan Dduw hyd ein hamser ni, dyna i ni ddau gyfrwng drwy yjdiai y rhaid i'w " hathrawiaeth" amlygu ei hun ; a safwn yn ddiesgus os nad adnabyddwn hi. t 1. Betli oedd Athrawiaeth yr Apostolion?—Y mae y gair "ath- rawiaeth" yn esbonio ei hun yn lled eglur ond i ni ei ddadgysylltu oddwrth y syniad sectol a gymhwysir iddo yn bresenol. Athrawiaeth ydyw y wybodaeth a draddodir gan athraw. Ymddengys, yn ol Robinson, fod y gair hwn yn gyfieithiad croew o'r Groeg didasìcalia, yn golygu " dysg a dysgeidiaeth; weithiau yn dynodi y dull neu y weithred o ddysgu, bryd arall yr hyn a ddysgir:" ond yn yr ystyr olaf y defnyddir y gair yn yr adnod dan sylw. Felly, athrawiaeth yr apostolion ydyw y wybodaeth achubol a ddysgasant i'r tair mil credinwyr hyny yn Ierusalem, a'r oll a ddysgasant wedi hyny trwy eu gweithredoedd a'u hepistolau—hid rhyw un thcory neu fympwy. Gellir olrhain athrawiaeth yr apostolion i fyny at ei ffynonell ddwy- fol, lle y rhwymwyd hwy yn awdurdodol at beth oeddynt i'w ddysgu. Pan dderbyniasant eu cenadwri ddwyfol, yr hon oedd i fod yn neges fawr eu holl fywyd, dywedodd y Brenin Iesu wrthynt, " Ewch, gan hyny, a dysgwch yr holl genedloedd, gan eu bedyddio bwy yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân ; gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynais i chwi. (Mat. xxviii. 19, 20). Mewa gair, golyg- wn athrawiacth yr apostolion yn ddwy gainc : sef (1) Cyhoeddi yr efengyl am y Messiah, er cynyrchu crediniaeth ynddo fel Mab y Duw Ehif. 3, Cyf. III., Mawrth, 18G0.