Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLUSERN. EIN CENADWRI. Yn ngwyneb llawer iawn o anfanteision, a lluaws o wrthwy- nebiadau, wrth edrych yn ol ar yr hyn y sy gwedi ei gyflawni trwy ein hymdrechion gweiniaid i ddwyn meddyliau dynion at ffydd ac arferion yr eglwysi apostolaidd, nis gallwn lai na di- olch i Dduw a chymeryd cysur. Oddallan yr ydym yn clywed yn barhaus wahanol leisiau gwrthwynebol yn dyweyd am bob egniad o'r eiddom, "Gadêwch iddynt"—"na wneler y sylw lleiaf o honynt"—" cof genym fod y Mormoniaid unwaith yn gwneyd llawer iawn o stwr yn ein ardal; ond darostyngwyd hwynt drwy ddystawrwydd—yr un modd y mae difodi athrawiaeth y rhai hyn." " Gâd iddynt." Iê, iê, gyfeillion, wrth adael iní, yr ydych yn ein gadael mewn cwmni anrhydeddus a chyda gwaith gogoneddus. Wrth ein gadael, yr ydych yn ein gadael, nid gydag euìunod, ond yn gwas- anaethu y Duw byw—gwedi troi oddwrth yr eulunod traddod- iadol a goleddwch chwi. Wrth ein gadael, yr ydych yn ein gadael gyda y gwaith mwyaf gogoneddus y gall meidrolion byth ymgyrhaeddyd ato—nid amgen clirio llwyni ac oulunod y gau broffwydi sy gwedi ymddangos yn y byd er y dyddiau y gwelid yr eglwys yn ei phurdeb—ei holl drefniadau yn gym- hwys yn ol y cynllun a ddangoswyd gan ysbrydoledigion yr Ar- glwydd. Pwy yn caru yr Arglwydd Iesu o galon bur na ddymu- nai gymeryd rhan yn y gorchwyl clodwiw P Wrth adael i ni yr yclych yn ein gadael gyda gwaith y dylech genfigenu wrth ein sefyllfa. Os parhau i ddweyd—" Gâd iddynt" a wneir, nid oes genym ond myned rhagom heboch. Mae ein hamser yn rhy werthfawr i ni ei wario mewn dysgwliad am i chwi ymuno â ni—mae y gwaith yn fawr a phwysig, y gweithwyr yn anaml a gweiniaid—h.y.,anaml a gweiniaid o'u cydmharu â'r gwrthwynebwyr. Eto i gyd, y mae mwy trosom nag y sydd i'n herbyn—y rnae Duw o'n plaid; canys ein prif amcam ydyw gwrthoií dyn a'i ddysgeidiaeth, a choleddu Duw a'i wir- ionedd—" Peidio â'r dyn yr hwn y mae ei anadl ynei ffroenau" —coflo einbod wedi einprynu er gwerth, ac am hyny na ddy- lem fod " yn weision dynion." Oyfoded dyn, ynte, ei egwan fraich, nyni a ymnerthwn yn yr Arglwydd ac yn nghadernid ei allu ef. Y mae yn gyfnod rhyfedd yn y byd crefyddol yn bresenol. Y mae pechaduriaid yn deffroi o'u cysgadrwydd, ac nid ydym Ilhif. 1, Cyf. III, Ionawr, 1860.