Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BHAGFYE, 1850. ì LLU8EEN. "Y GWAITH DA."—-Phil. i. 6. Mr. Gol.,—Gwelais yu y Llusern am Hydref gyfeiriad ataf, gan rywun a eilw ei hun Gwan yn y Ffydd, am eglurhad ar Phil. i. 6, a chan fy mod yn barod bob amser i wneyd fy ngoraf i gryfhau pob gwan yn y ffydd, yr ydwyf yn cynyg yr eglurhad a ganlyn. Fe sonir yn y geiriau am rhyw " waith da" gwedi cael ei ddechreu yn eglwys Philippi, ac nid yn y byd, ond " ynoch"—yn eich plith. Wrth ddarllen y 5ed adnod, yr ydym yn canfod fod cysylltiad rhwng y 6fed a'r 5ed adnodau. Yn y 5ed fe sonia yr apostol am eu "cymdeithas hwy yn yr efengyl," hyny yw, cu cyfraniadau ; o ganlyniad golygwyf mai y " gwaith da" a nodir yn y 6fed adnod yw cyfraniad at gynal y saint tlodion. Ymae y " gwaith" hwn yn cael ei alw yn " gymdeithas gwcin- idogaeth y saint;" hefyd, fe'i gelwir yn " ras Duw" (2 Cor. viii. 1); ac fe'i gelwir yn "fcndith" (2 Cor. ix. 5). Yr oedd yr apôstol yn rhoddi pwys mawr ar y " gwaith" hwn, sef casglu at gynal y saint tlodion ; fe ddylai fod hefyd yn bwysig yn ngolwg pob Cristion, canys gwaitli da yw. Wrth yrhwn oedd wedi " dechrcu" y gwaith yn eu plithy mcddyliwyf Titus. Yr ydwyf yn casglu hyn oddwrth yr hanes a rydd Paul am eglwysi Macedonia (2 Cor. viii. 6)—" Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly orphen o hono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd." A chan mai un o ddinasocdd Macedonia oedd Philippi, raae yn ddios genyf mai Titus ocdd yr hwn a ddcchreuodd y " gwaith" a nodir yn yr adnod dan sylw. Yr oedd Paul yn hyderus y buasai ef yn parhau yn y gwaith hwn, ac y buasai y gwaith yn cael ei gyflawni hyd ddydd Iesu Grist, hyny yw, dydd ei aií ddyfodiad; ond pe buasai yr apostol yn fyw hcddyw, cawsai weled fod, yn gwbl groes i'w ddysgwyliad, y fendith hon wodi cael ci dwyn oddar y saint tlodion er ys llawer dydd. Y mao gwaith proffcswyr yn dwyn y gyfran hon oddar y tlodion wedi ysbeilio yr eglwys o fendithion. Darllener 2 Cor. viii. drwyddi, a cheir gweled hyn. Y mae hefyd wedi ysbeiho Dnw o'i ogoniant; o ganlyniad, pa ryfedd fod yr cglwysi yn druenus eu sefyllfa, gan eu bod wedi gwncyd y fath anrhaith. Y mae yn llawn bryd iddynt edifarhau a sìcrhau y pothati sydd yn ol, rhag îddynt, tra yn dysgwyl am oleuni, i Dduw ci droi yn dywyllwch a chysgod angau, ac iddynt hwythau daro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll. Nid oes dim ond peth o'r fatli i'w ddysgwyl am y fath erchyll-waith. Yr oedd yr Arglwydd Icsu a'i apostolion yn ofalus iawn am gyrff nc eneidiau y tlòdion, yr hyn nid yw yr eglwysi presenpl. Y maent hwy gwedi dwyn y drysorfa oddar y tlodion, i dalu i rywun am en porthi yn ysbrydol, meddaut hwy. Druain ydynt! Pa faint o ysbrydolrwydd y sydd yn eu hymborth eneidiol ? Coeliwyf nad oes dhn un rhan o bedair o'u hymborth yn ysbrydol, olierwydd y mae gwedi ei gyinysgu â chredo- au, cyffesion, a dychymygion a thraddodiadau dynol; ac os bj'dd i vyw un ddysgu y bobl yn y gwirionedd fel y mac yn yr Icsu, erlidi:int ef a dywedant bob drygair am dano, iô, chwythent ef pe gallent i ebar- gofiant tragwyddol I 0 ! na ddcuai dynion i chwilio y gwirionedd drostynt eu hunain, a phrofi y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngynt. Gobeithio y rhydd y pethau ynn ychydig gryfdcr i'r " Gwan yn y Ffydd." Llanidloes. Edward Evans.