Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TAOHWUÜU, 1859. î LLUSEIffl. ■. i ■ ■ . . ■ , NODWEDDION SBOTIAETH.^Rhif. iy. " DYCHWELIAD TRYLWYR AT GRISTIONOGAETH GYNLEEIG." Y mae y froddeg neillduol hon, wedi cyfodi i fodoliaeth, rywfodd, yn lled ddiweddar; ac ar adenydd y Llusern yn unig y mae yn fisol yn cynyg ei chenadwri i sylw y crefyddwyr Cymreig, Nis gellir dileu y geiriau " Dychweliad trylwyr. at Gristionogaeth Gyntefig' o'r bydbyth mwy; o ganlyniad doethineb ydyw i bawb brofi ou hamcan a'u tueddiad—rhaid iddynt fod uiì ai er da ai drwg. Y mae broddegau yn cael eu goni i'r byd, ar rai adegau, y rhai u ymledant yn fuan dros dafodau cenedloedd, gan dywallt cu bysbryd i fwriadau dynion, hytl nes eu symud i gyfnewid eu har- ferion. Yr un modd y mae peraonau cyfnodol (epoch menj yn ymddangos ar esgynlawr Rhagluniaeth, oes ar ol oes, mewn amser addas, y rhai a roddant ysgogiad ncwydd i lifeiriant pcthau mewn erefydd, gwyddoniaeth, Tlenyddiaeth, a masnach—^-er daioni neu er drygioni. Oyfododd broddegau byrion i fod yn gyfryngau i'r cyfncwidiadau pwysicaf a gymerant le yn y byd; megis cwymp dyn drwy eiriau twyllodrus y sarfp, " ni byddwch farw;'' rhyddid y genedl He1)roig o gaethiwed yr Aifi't drwy ychydig o froddegau dwyfolMoses; a llwyr gyfnewidiad moesol a chrefyddol y byd a ragfynegwyd drwy'r froddog fer " Edifarhewch, canys neshaodd teyrnas nofoeddt" Y gair Diwygiad (Beformation) hefyd y sy gwedi profi yn saeth angeuol i Babyddiaeth o ddyddiau, Luther hyd ddiwedd y ganrif ddiwoddaf. Y mao pob prif amcan Ríiag- luniaethol yn egluro ei hun drwy ryw enw neu froddeg neillduol. Yn awr, i ba le y caiff crefyddwyr eu harwain os profa y llinoll " Dychweliad trylwyr at Gristionogaeth gyntefig" yn arwyddair rhyw gyfnewidiad grymus yn y byd ? Oawn edrych. 1, Y mae yh ateb drosti ei hun. Dychweliad ydyw ei chyfeir- iad, ac at Gristionogaeth öyntefig ydyw pendraw ei thaith; sef at Gristionogaeth fol ei traddodwyd gan Grist a'i apostolion. A oes un Oristîon proffésedig a all ymWrthod â myned*yno ? Ac y mae " dychweliad" mor ysgtythyrol, ac amcän y froddeg dán sylw mor ddidwýll, nes y niae yn tynu sylw ẁagfarn pawb; cänys pwy a all ei gwrthddweyd ?