Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYDREF, 1859. Y LLÜ8BRN. RHBSYMOLDEB TREFN MADDEUANT. Gwk eymaint ei awdurdod a'i ddoethineb ag apostol a'n cyng- horodd i fod bob amser yn barod i roddi rheswm dros y íFydd y sydd ynom. A chan fod perthynas mor agos rhwng rheswm a ffydd, fel mai yn ol helaethrwydd ein gwybodaeth am ffeithiau y cynydda ein rheswm, i'r un graddau y cryf ha ein fi'ydd. Nid oes yr un wyddoniaeth yn y byd a chanddi gymaint o reswm dros gredu ynddi ag y sy gan Gristionogaeth. Hyd y nod dros y gwrth- ddrychau goruwchnaturiol—y rhai "ni welodd llygad ac ni chlyw- odd clust"—y sydcl i ffydd y Cristion, y mae ganddo y ddadl anffaeledig " fel hyn y dywed yr Arglwydd." Ni a ymdrechwn gymhwyso y gorchymyn apostolaidd uchod at yr adroddiadau efengylaidd hyn : " Bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau," ac " Edifarhewch, a bedyddier pob un o honoch yn enw yr Ar- glwydd Iesu, er maddeuant pechodau." Ychydig iawn o reswm, llai o ffydd, a llawer o ofergoeledd y sy gwedi cael eu taflu tros y brawddegau ysbrydoledig hyn a'u cyfelybj hyd nes gorchuddio y gwirionedd a raid iddynt gynwys. Er mor syml ydyw eu cystrawiad, y maent wedi dyoddef cu plethu bob ffordcl er cyfarfod y mympwyon cyfeiliornus, sef bod bedydd yn aileni, yn maddeu, ac yn cymeryd lle iawn Orist. Y dybiaeth ddiweddaraf ar y geiriau uchod a draddodwyd gan y dysgedig Ddoctor D. R. Oampbell, prif athraw yn athrofa y Bedyddwyr yn Georgetown, America. Dywed ef mai ystyr y geiriau " Bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau," ydyw mai edifeirwch y sydd er maddeuant pechodau. Yr un cyfansoddiad ieithyddol fyddai i'r frawddeg, Bedydd Cristionogol er maddeuant pechodau; ond pwy a feddyliai mai y gair " Oristionogol" y sydd er maddeuant ? Y mae yn ddigon amlwg mai personau edifeiriol íi fedyddiwyd gan Ioan er, neu mewn trefn i, fwynhau maddeu- ant gan Dduw. Er mwyn amgyffred rhesymoldeb " bedydd er maddeuant pech- odau," y cyflwr rawyaf manteisiol i'r meddwl yw manylu ar Gristionogaeth fel cyfundrefn wedi ei haddasu gan ddoethineb