Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDI, 1859. Y LLUSEM. Y DIWYGIAD CREFYDDOL.—PA BETH YDYW ? {0 "Baner Cymru") FoNEDDIGION, Y mae y flwyddyn hon wedi cael ei hynodi, yn mhlith llawer o bethau rhyfedd ereill, à diwygiad crefyddol nodedig mewn llawer o ardaloedd Oymru, Lloegr, Iwerddon ac America. Y mae llawer yn cofio cyffroadau tebyg o'r blaen, ond yr ydym yn credu fod y symudiad presenol yn gwisgo arddull gwahanol i ddim a fu o'r blaen, yn gymaint a bod pregethu y gair, i raddau helaeth, yn cael ei esgeuluso, fel moddion argyhoeddi y byd, a chyfarfodydd gweddio, bron, yn unig foddion argyhoeddiad. öorchymynir i'r Oristionogion'.' weddio dros bob dyn," i'r " gwŷr weddio yn mhob man," &c.; ond yr ydym yn methu yn llwyr a deall fod y rhagorfraint a'r ddyledswydd yma gwedi ei sefydlu fel moddion i argyhoeddi'r byd. Y dystiolaeth am Grist yn y dech- reuad a bregethwyd yn mhlith yr holl genedloedd er mwyn ufydd- dod ffydd. Dywedodd Mab Duw am y Dyddanydd, " Pan ddêl, efe a argyhoedda y byd o bechod, o gyfiawnder, ac o farn." Ajp ddydd y Pentecost, efe a ddaeth ar y dysgyblion—nid ar y byd, oblegyd ni allai y byd ei dderbyn—ac a'u gwnaeth hwy yn gen- adon ysbrydoledig, i bregethugair y deyrnas er argyhoeddi'r byd. Yn ol ansawdd a deddfau y meddwl dynol, fe drefnodd Duw fod ffydd trwy glywed y dystiolaeth am Grist, abywyd mewncysyUt- iad â ffydd, edifeirwch, ufydd-dod, a bywyd newydd; a'r hyn a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. Fel y dywedodd un mewn cyhoeddiad wythnosol yn ddiweddar. " Rhaid i'r cyfarfodydd gweddio diwygiadol fod o wahanol enwad- au, cyn y gellir dysgwyl llawer o rymusder ynddynt." Onid oos annghysondeb o'r mwyafynhyn? Y maent wedi ymffurfio yn bleidiau gwahanol o gydwybod; proffesant egwyddorion gwahanol. pregethant athrawiaethau gwahanol,gweithredant yn wahanol, a'r; pethau hyn oll o gydwybod: ond yn awr, cydunant i weddio, iê, cymerant arnynt weddio dros eu gilydd; pryd, mewn gwirionedd, nas gallant, heb fradychu cydwybod a phroffes. Pa fodd y dichon un weddio am lwyddiant yr hyn y mae o gydwybod yn ©i an-