Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWEFRAWR, lé§tf. Y LLU8ERN GAIR DUW YW YR UNIG REOL. Ni wyddom ddim yn wirioneddol ac awdurdodol am Gristionog- aeth ond o'r Bibl. Y mae hwn, modd bynag, yn rhoddi pob hyfforddiant anghenrheidiol gyda phob sicrwydd ac awdurdod. Er ei fod ẁedi ei ysgrifenu gan ddynion, gair Duw ydyw. ' Nid drwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth, eithr dynion santaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glân. Priodol felly orchymyn Paul i Timotheus : ' Aros di yn y pethau a ddysgaist, ac a ymddiriedwyd i ti am danynt, gan wybod gan bwy y dysgaist; ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythyr làn, yr hon y sydd yn abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iechawdwriaeth, trwy y ffydd y sydd yn Nghrist Iesu. Yr holl ysgrythyr y sy gwedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw, ac y sy fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi,-- fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweith- red dda.' Mae hyn yn ddigon. Gan fod gair Duw yn abl i ' wneuthur yn ddoeth i iechawdwriaeth--yn fuddiol i ddysgu yr anwybodus, ceryddu y pechadur, argyhoeddi y cyfeiliornus, ac arwain pawb i gyfiawnder--yn abl i berffeithio dyn Duw mewn cymeriad, a'i gyfaddasu i bob gweithred dda; mae y rheswm yn eglur paham y rhoddodd yr apostol henuriaid eglwys Ephesus ar eu gwyliadwriaeth (a'r ' ymadawiad' proffwydol gerbron ei olygon) yn y geiriau hyn •. ' Yr wyfyneich gorchymyn i Dduw ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith y rhai a santeiddiwyd.' Ymay gorweddai eu dyogelwch, a'r eicldo y praidd. Nis gallai y Gair ag oedd yn gyfaddas i'r fath berffeithrwydd fod eisieu, na chenadâu unrhyw chwanegiad dynol. Yn y ff'ynonell yna y gorweddai y perygl. Gan fod yr apostol yn rhagweled hyn, efe a ragrybuddiodd y dysgyblion drwy ragfynegiadau eglur o allu bywiol ac anllygr- edig Gair Duw; a thrwy eiriau llawn mor gadarn efe a'u rhag- rybuddiodd o ddylanwad gwasaidd, deitíol, amarwol gair dyn. Yr