Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLUSEM. IONAWB, 1859. OFFBYMU TBOS Y MEIBW. Mr. GoL.,--Gofyniad priodol iawn yw yr eiddo " Beread" yn y Llusern ddiweddaf, sef " Pa beth yw dyleds:vydd y Cristion gyda golwg ar offrymu tros y marw P" Yr ydym yn dyall nad yw yr arferiad o offrymu tros y marw yn cael ei dal i fyny yn unman fel y mae yn Nghymru ; ac os felly, rhaid ou bod gymaint â hyny yn oleuach neu gymaint â hyny yn dywyllach nâ chenedloedd ereill. Y mae yn beth rhyfodd fod yr arferiad yma gwedi bod mor ddisylw gan ysgrifenwyr yn yr haner can mlynedd diweddaf. Y mae y wasg Gymreig.wedi gyru y drychiolaethau, y canwyllau cyrff, y tylwyth tôg, &c. bron yn Uwyr i dir ebargofiant; ac ymlidiwyd llawer o ffol-arferion ereill ymaith ; ond rywfodd ychydig iawn, hyd yr ydym yn wybod, o ymofyn a fu, pa beth yw gwirionedd yn nghylch y ddefod dan sylw. Yr ydym yn dra sicr fod llawer o'r rhai sydd yn arfer offrymu tros y meirw yn gwneyd hyny heb ystyried fod na drwg na da ynddo ; ond y mae hyny yn gamgymeriad peryglus, oblegyd rhaid fod pob cyflawniad crefyddol yn bwysig iawn mewn drwg neu dda, ac nid yw neb yn esgusodol am ei anystyriaeth, oblegyd ni ddylai neb gyflawni unrhyw ddefod heb ystyried ei tharddiad, ei nhatur, a'i hamcan. Ystyriaeth ddyladwy o'r pethau yna a roddai ben bythol ar lawer o ffol-arferion y sydd eto yn uchel eu bri yn ein gwlad, ac yn eu plith yr arferiad dan sylw. Ofer edrych yn y Bibl am na gorchymyn na giampl o'r cyfryw beth. Oedwir a delir i fyny amrywiol bethau oeddynt yn arferedig dan yr hen oruchwyliaeth, ond nid oes yno un rhith o sail i offrymu tros y marw; gan hyny rhaid edrych am darddiad y ddefod o rywlo heblaw o drefniad Duw. Yn mhlith defodau ac arferion Babilon Fawr canfyddir eu bod yn credu fod lle a alwant Purdan. Dywed Mosheim fod y dyb- iaeth am y purdan wedi ei chymeryd o blith ofergoelion y Pagan - iaid, a'i dwyn i'r Eglwys Babaidd tua diwedd y bumed ganrif'.