Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

[MEHEFIN, 1858, Y LLUSERN. , DYLEDSWYDDAU Y CRISTIOÎÍOGION AR DDYDD YR ARGLWYDD. Y dbyt.edswydd gyntaf a nodir ydyw eu dyledswydd i gadẃ eu cydgynulliad ar y dydd hwn. Y mae hon yn ddyledswydd ár- benig ar yr holl saint a'r ffýddloniaid. " Heb esgeuluso eich cydgynulliad eich hunain.'' Y mae'r saint, drwy gadw eu cyd- gynulliad, yn dystion o adgyíbdiad Crist oddwrth y meirw. Pe byddai i estron neu bagan na chlywodd erioed am yr efengyl a'r Iachawdwr ddyfod i'n plith a gweled yr ymgyrchiad tua'r gwa- hanol leoedd o addoliad ar ddydd yr Arglwydd, oni fyddai yn naturiol iddo ofyn pa beth yw y rheswm o hyn, ac i ba ddyben y maent yn ymgyrchu ? Onid yr atebiad priodol iddo fyddai, mai er cadw cofladwriaeth o adgyfodiad Crist oddwrth y meirw, yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, a gyfodwyd i'n cyfiawnâu, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy yr efengyl. Y maent hefyd yn tystio fod yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd Crist wedi Hwyr foddloni y Tad ar eu rhan, a bod eu ymorphwysiad hwythau am sail eu cymeradwyaeth gerbron Duw yn unig yn ei haeddiant ef. Pe na buasai ei aberth ef yn ddigonol, pa ddyben a fuasai cadw coff'adwriacth o'i enw, gan na buasai un budd i ni, na gogoniant i Dduw yn deilliaw trwy hyny. Ond y mae ei aberth ef yn ddigonol. Y mae gwedi ei brofì tu hwnt i bob dadl, gan i Dduw ei adgyfodi ef oddwrth y meirw, gan ryddâu goûdiau angau. Mae y Meichiau gwedi ei ryddâu, a gwedi ei brofi yn Fab Duw mewn gallu, yn ol ysbryd santeiddiad, drwy yr adgyfodiad oddwrth y meirw. Am hyny, gan fod genym y fath broûon diymwad o'i fawredd a'i ddwyfoJdeb, a digonolrwydd ei aberth, bydded i ni gadw gwyl. Y mae y saint hefyd, drwy gadw eu cydgynulliad ar Ddydd yr Arglwydd, yn tystio eu bod hwy yn ei ddysgwyl ef yr ail waith i gyrchu ei ddyweddi adref, ac i fod yn ihyfeddol yn rnhlitli y rhai oll y sydd yn ei ddysgwyl ef a'i iechawdwriaeth. Dywedai Paul, " Os yn y byd hwn yn unig y gobeithiwn yn Nghrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni." (1 Cor. xv. 19.) Gan ein bod ni, gan hyny, yn cadw coffadwriaeth o adgyfodiad Crist, y mae hyny yn proh ein bod yn dysgwyl adgyfodiad i'n cyrffein hunain, gan eu bod yn anwahanol gysylltedig â'u gilydd; canys dywedai Crist, " Byw wyf íi, a byw fyddwch chwithau hefyd." (Gwel 1 Cor. xv.) Y mae y protfeswyr hyny sydd yn esgeuluso eu cyd- gynulliad yn wirfoddol, yn dywedyd yn eu ymddygiadau na chyfod- wyd Crist oddwrth y m°.irw, neu ynte nad ydyw ei adgyfodiad yn werth gwneuthur coffa o hono, Miá ydynt yu deilwng o emw