Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAWRTH, 1858. Y LLTJSEEN. ENW A IAETH (ISM.) Y mabs a fynom yn awr â'r termau hyn yn eu perthynas â chrefydd. Yr ydytn wedi cynefino â chlywed enwau lawer, wrth y rhai yr adnabyddir personau, cyfundreithau, a sectau. Yr ydym yn cwbl gredu fod yn anghenrheidiol iawn gwneyd ymchwiliad i bri- odoldeb, hawl, ac effeithiau y cyfryw ar ansoddau a gweithrediadau crefyddol. 1, Y mae Iachawdwr y byd yn gyfryw mewn mawredd, fel nad oes gair unigol mewn iaith ddynoî i'w gynrychioli. Yr oedd Abraham (tad llawer o genedloedd) yn ddigon cyflawn i gynry- chioli mab Terah ; ond pan gynhyrfwyd y proffwyd gan yr Ysbryd i ragfynegu am y M«ssia, y mae yn dywedyd " Canys Bachgen a aned i ni, Mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef; a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd." Pallai gofod i ni nodi y cwbl o'r geiriau a ddeínyddir >yn yr Ysgrythyrau i osod allan yr Arglwydd lesu. Er eu bod yn ugeiniau mewn nifer, y mae efe yn fwy nâ llonaid y cyfan. Yn llythyr Paul at y Philipiaid dywedir, " Üherwydd paham, Duw a'i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn y sydd goruwch pob enw; fel yn enw Iesu y plygai pob glin o'r nefolion, daiarolion, a than-ddaiarolion bethau ; ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw Dad. Os oes un o'r gwahanol eiriau neu enwau a ddefnyddir yn y Gwirionedd ysbrydoledig yn cynwys mwy nâg ereill, yr ydym yn credu mai y gair Mab ydyw. Yn y llythyr at yr Hebreaid dywedir, " Wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eis- teddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch-leoedd ; wedi ei wneuthur o hyny yn well nâ'r angelion, o gymaint ag yr etifeddodd eíe enw mwy rhagorol nâ hwynt-hwy. Canys wrth bwy o'r angelion y dywedodd efe un amser, Fy Mab ydwyt ti, myfi heddyw a'th genedlais di ? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab." " Efe," medd Paul, " a eglurwyd yn Fab Duw mewn gallu, yn ol ysbryd santeiddiad drwy yr adgyíbd- iad oddwrth y meirw." Dengys y dyfyniadau uchod mor dra- dyrchafedig yw ei enw ef — goruwch pob enw. líid enw yn unig yw yr eiddo ef, ond awdurdod hefyd, iê, " pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaiar." Fel y gallai gyfranu i blant dynion, yn ol helaeth- rwydd ei gariad, o'r bendithion anchwiliadwy a drysorwyd ynddo, efe a gymerodd arno swyddau, sef Archoffeiriad, Brenin, a Phro- ffwyd, ac fel enw yn golygu ei neillduad a'ihawl i'r cyfryw swyddau gelwir ef Crist (Eneiniog). Nid yw y gair Crist yn golygu