Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR ÌEUAINC. Rhif. 17. MAI, 1848. Cyf. II. Yn y gyfraith farnol, neu y gyfraith wlaclol, a rodd- oddDuw iIsrael gynt,mae geiriau fel hyn: " Nachaífed hudoles fyw," Exod. 22, 18. " Hudoles" yw un yn hudo, yn ol y Saesneg, tcttch, dewines, swynwraig, neu reibwraig. Yr oedd ymofyn â'r cyfryw yn cael ei wahardd : Lev. 19. 31, " Nac ewch ar ol dewin- iaid, ac nac ymofynwch a'r brudwyr, i ymhalogi o'u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.'' Cawn ysgrifenu gair yn—• I. Am waith hudoles. 1. Yr oedd hudoles yn arfer twytt. Yn oesoedd boreuaf a thywyllaf y byd, yr oedd llawer o ymarfer- iad â swynyddiaeth, daroganiaeth, rheibiaeth, &c, ac hid ydyw wedi ei ddileu yn hollol yn y bedwaredd ganrif a'r bymtheg o'r oes Gristionogol. Mae gweddillion yr hen greíft bechadurus yn aros hyd heddyw. Y mae goiwg ar bioden neu fran, ysgyf- arnog neu betrusen, yn y bore, yn daroganu llwyddiant neu aílwyddiant y diwrnod hwnw. Ac onid oes dyddiau a ystyrir yn ddyddiau llwyddianus a dydd- iau aflwyddianus, fel nad oes na gwas na morwyn yn rhyfygu myned at eu cyfìog ; na meibion a merched i'r sefyllfa briodasol, ond ar un o'r dyddiau llwydd- ianus. Mae yn gryn ddifyrwch gan î'y meddwl mai nid yr un dyddiau a ystyrir yn llwyddianus yn sir Benfro ag yn sir Gaerfyrddin. Y mae llawer o son wedi bocl am ganwyllau cyrff, gwrach y rhibyn, ader- yn corff, &c, ond y mac llawer llai o honynt nag oedd, ac yn llai yr ânt eto oncl siaradllai am clanynt. Yr ocdcl hudoîcs yn arfer twyll, yn honi y mcdrai ragfyncgu pethau dyfodol, mynegu tyngcd, hysbysu dirgeledigaethau, y pethau na wydclai neb ond Duw ei nun.