Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR IEÜAINC. Rhif. 16. EBRILL, 1848. Cyf. II. ¥ $îala0 îSrenûîûL Mae dyn megys rhyw balas godidog, wedi ei adeiladu gan y Brenin Alpha, mewn congl fechan o'r dalaeth ddaearol, i'r dyben i fod yn breswylfa iddo ei hun. Y mae i'r palas breninol hwn bump o byrth, wedi eu hadeiladu o'r un defnyddiau, a chan yr un awdwr ; ond y maent yn gwahaniaethu yn eu ffurf, eu henwau, eu maintioli, eu haddurniadau, a'u defnyddioldeb. Nid yw yn ddichonadwy i feidrolion fyned i mewn i ystafelloedd prydferth y palas ond trwy un o'r pum porth. Y mae tri o'r pyrth wedi eu cyfleu yn wyneb y palas, un bob ochr i'r wyneb, a'r un arall yn mhob man dros yr holl balas. Nis gellir dychymyg lle i osod porth yn ychẁaneg er cael chwech. Gall' y brenin fod wedi adeiladu palasau yn rhanau ereill o i amherodraeth fawr, ac iddynt bum-pump o byrth. Deallir yn hawdd genym y gellir cau un neu ddau, neu ychwancg, o'r pum porth heb ddinystrio yr adeil- adaeth. Nis gallyr un pethau fyned i mewn i'r palas trwy bob un o'r pyrth. Y mae yn y palas bump ys- tafell é'ang a hardd, ac y mae y pum porth yn agor i'r un ystafeíl, a thrwy yr ystafell hono yr eir i'r ail, a thrwy yr ail i'r trydydd, ac yn y blaen nes cyrhaedd yr ystafell ddiweddaf, yn mhen pellaf y palas. Y raae yma gywreinrwydd mawr, a gogoniant yr adeiladydd yn adlewyrchu o bob rhan o'r gwaith. Y mae yr ystafelloedd yn hynod a gwir ryfedd: pwy fwyaf gludir iddynt, mwyaf i gyd y maent yn ymagor ac ymeangu, a hyny heb symud y muriau, fel nas gallwn wybod pa faint allant gynwys. Wedi i'r j)alas gorwych hwn gael ei orphen, rhoddodd y brenin oruchwyliwr neu lywydd i ofalu am dano, gyda gorch- ymyn cacth iddo gadw yr ystafelloedd yn lân, fel y gallai fod yn breswylfa iddo ei hun, Yn absenoldeb y brenin, daeth ei elyn gwaethaf, a thrwy ddichell fe hudodd feddiant o'r palas; ond y mae y brenin, yn ci