Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TFTWYSYE)®. CHWEPROa, 184:4. BYWGRAFFIAD Y DR. ADAM CLARKE. Ganwyd y gŵr enwog hwn mewn pentref bychan o'r enw Moybeg, «wydd London- derry, yn yr Iwerddon, yn y flwyddyn 1790 ; cafodd ei dad lawer o fanteîsion dysg; bu yn fyfyriwr yn Edinburgh, Glasgow, ac wedi hyny yn Trinity College yn Dublin. Bwriadai ei rieni iddo fyned yn offeiriad, ond o herwydd iddo briodi pan yn y Coleg yn Dublìn, yr hyn oedd groes i reolau y Coleg, gorfu arno roddi i fynu y meddwl am fyned i*r offeiriadaeth. Yn wyneb hyny, agorodd ysgol yn y wlad, ond er cystal ysgolhaig ydoedd, nid oedd ei ennill yn ddigon i gynnal ei deulu, o herwydd hyny aeth i gadw fferm fechan mewn cys- sylltiad â'r ysgol, ond yr oedd ei amgylch- iadau yn dra isel er pob peth, ac felly y parhaodd agos dros oi ocs. Yn yr amgylch» iadau isel hyn y cafodd Adam ei eai a'i t;