Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYWYIY©®, «EDI, 1842. ADGYFODIAD Y MEIRW. Ni buasai byth yn ddichonadwy i neb o'r hil ddynol ddychymmygu yr adgyfodai'r meirw, oni bai i Dduw ddatguddio hyny, trwy ei air a'i weithredoedd, i'r fath radd- au, ag y mae bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni trwy yr efengyl; er hyny, y mae rhai yn dueddol yn mhob oes i wadu'r athrawiaeth hon, ynghyd ag am- ryw athrawiaethau ereill sydd yn dal per- thynas â hi. Ond gan í'od Duw yn holl- alluog, ac yn ewyllysio adgyfodi'r meirw; a bod ei allu cyhyd â'i ewyllys, ac wedi sicrhau hyny trwy ei air; yna gellir dy- wedyd yn briodol gyda Job, "Yr hyn y niae ei enaid yn chwennychu, efc a'i gwna," Job23, 13. Wrth sylwi ar yr athrawiaeth hon, mi gymrneraf yr adnod ganlynol yn sylfnen : 1 Cor. 15, 35, " Eithr fe a ddywed rhywun,