Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y fWWI®, AWST, 1842. ADFYWIAD MEWN CREFYDD. Nid digon er cyrhaedd llwyddiant mewn eglwys yw, fod rhifedi yr aelodau yn ych- wanegu. Y mae'n ofynol fod y proffeswyr yn effro ac yn iceithgar, er bod yn deilwng o'r enw eglwys mewn sefyllfa Iwyddiannus. Tuag at gyrhaedd adfywiad,— 1. Y mae'n ofynol i barotoi y tir. Dy- wed yr Arglwydd, "Braenerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain." Y mae beiau i ymwrthod â hwynt, a rhwystr- au i'w symud, cyn y gellir dysgwyl wyneb Duw. Os bydd neb yn byw heb dalu eu haddunedau, yn cyd-ymffurfio â'r byd hwn, yn caru'r byd yn ormodol, yn ymrysongar, &c, y mae yn rhaid edifarhau am y pech- Odau hyn, ac ymostwng gerbron Duw am bob beiau ereill. Byio me.icn pechod sydd yn peri fod llawer o eglẅysi mor wael a dig'ymmeriad.