Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TnflYiYiD. AWST, 1840. IIANES AM DAFYDD BRENÍN ISRAEL. Mab ieuengaf Jesse oedd y gwr enwog hwn. Ganwyd ef yn Methlehem, oed y byd, 2919. Bugail ar ddefaid ei dad oedd ei waith yn y rhan foreuol o'i fywyd. Yr oedd cynnaliaeth dynolryw yn moreu y hyd yn ymddibynu yn neillduol ar ddiadellau defaid, &c. Byddai gwyr cyfrifol gynt yn arwain praidd ; ae yr oedd y swydd yn eu golwg yn anrhydeddus, megys y darllonwn am Abel, Abraham, Isaae, Jaeob, Moses, Dafydd, &c. Tebygo^yw i Dafydd gyfansoddi amryw o'i Salmau pan yr oedd ar hyd faesydd Bethlchem. Nid ydym yn gwybod yn neill- duol am dano cyn amser ei neillduad gan Samuel i fod yn ben ar Israel yn lle Saul. Galleaid meddwl wrth edrych aryrhaul yn tywynu yn amser ci enneiniad, y buasai ytì