Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYWYSYDD. Rhif. 15.] MAI, 1838. [Pris lg. CYFRYNGDOD CRIST. Wedi sylwi ar y Bibl yn air Duw, deûwii yn awr i -wneuthur nodiadau ar yr athraw- iaeth a olygir yn ganolbwnc i'r oll o'r datguddiad dwyfol,—sef, Cyfryngdod Mab Duw. Y mae meddyliau ëang a chywir ar y mater hwn yn rhwyddhau y ífordd ddeall pob rhan o air yr Arglwydd. Yn mherthynas i'r pwnc hwn, gwnawn sylwi fel y eanlyn :— Nodiaduu eglurhaol. I. Fod sefydlu Crist i fod yn gyfryngwr yn hollol o ras. Yn mhob lle y crybwyllir am ddyfodiad Crist i'r byd, rhoddir awgrym mai i gariad ac ewyllys da Duw yr y'm yn yn ddyledus am y rhodd arbenig. Ni byddai un synwyr i son am ryj'eddu cariad Duw, pe buasai rliwyinau arno drefnu fFordd i achub dynolryw. Yn wyneb nad oedd yn