Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYWYSYDD. Rhif. 14.] EBRILL, 1838. [Pnis lg. Y BIBL YN AIR DUW. Y mab genym y profion mwyaf sicr, focl ysgrythyrau jrHen Destamont a'r Newycld yn air Duw. Teilwng yw o'r enw y llyfr. 1. Mae hynafiaeth yr ysgrythyrau yn eu profi yn air Duw. Nid oes dim amrnheu- aeth yn meddwl neb, nad yw y Bibl yn Hyfr hen iawn. Y mae'r hyn sydcl i'w ddweyd o barth i'w oedran, yn fwy nâ ellir gael dros un llyfr arall. Y mae Tacitus, yr hanesydd Rhufeinig, yn crybwyll am lyfrauj yr Iuddewon, fel llyfrau oedranus iawn yn ei amser ef, yr hwn oedd yn byw oddeutu amser Apostolion Crist. Cyfieith- iwyd yr Hen Destament, o'r Hebraeg i'r Croeg, tua 300 o flynyddoedd cyn geni Crist. Ysgrifenwyd Ilyfrau Moses 1500 cyn y cyfrif Cristionogol. Yr hanesiaeth cyff- rcdin ag mydd Hynaf yn y bỳd, yw gwaith II