Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TYWYSYDD. Rhif.13.] MAWRTH, 1838. [Pris lg. BYR OLWG AR Y BYD CRISTION- OGOL. Wrth wrando ar bregethau, wrth ddarllen traethodau, ac wrth gyfeillachu ac ymd'dy- ddan â chyfeillion Cristionogol, canfyddwn yn uniongyrchol fod rhagfarn a chenfigen yn uchel yn y byd yn gyffredinol; y mae'r ddau elyn angeuol yma yn cael yr holl feithrindod yn lle santeiddrwydd. Wrth dremio ar y byd paganaidd, canfyddir fod addolwyr Buchus yn debyg iawn i'w hargl- ■wydd ; wrth edrych ar addolwyr Venus, y maent o'r un cymmerìad â'u duwies; ond pan dremiwn ar y wlad ag sydd yn cael eu galw yn Gristionogion, O ! mor bell y maent oddiwrth fod yn debyg i Crist; y mae yn llawn bryd i ni roi heibio galw ein hunain yn Gristionogion oni ddiwygiwn o'n cysg-