Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR TEÜAINC. Rhif. 56. AWST, 1851. Cyf. V. GWRANDAWÍR. EZECIEL. ?Ezec. 33, 30—33, "Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siárad i'th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tái, ac yn dywedyd y naill wrth y lla.ll, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddiwrth yr Arglwydd. Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o'th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eii'iau, ond nis gwnant; canys â'u geneuau y dangosant gariad, a'u calon sydd yn myned ar ol eu cybydd-dod, &c. Mab yn amlwg iawn oddiwrth yr adnodau uchod, yn gystal ag oddiwrch .gywair y benod, ynghyd ag oddi- wrth air Duw yngyffredinol,fod gweinidogyrefengyl yn llanw y cylch pwysicaf, ac yn gweinyddu y swydd gyífrousaf yn ei dylanwad a'i chanlyniadau, ag y dichon bôd meidroì ei hargymeryd—saif ar yr adwy danllyd ac ofnadwy rhwng y Duw byw a phech- aduriaid sydd yn feirw mewn bedd o gamwedd a phechod—rhwng y tân ysol â'r soflyn sych : a gwae f'ydd iddo onis cyflawna, " Felly dithau í'ab dyn, yn wyliedydd i'th roddais i dŷ Israçl, fel y clywech y gair o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddiwrthyf fi." Mae yr enwau a osodir arno, y desgrifladau a wneir o hono, ynghyd â'r ymddiried pwysig y sydd ynddo, yn dangos nad yw i fod yn segur, na diffrwyth. na diofal. Cenadwr yw oddiwith Frenin y nefoëdd i'r ddaear ; byddai neuid neu atal un gair yn y genad- wri, j'n ddigon i beri ei haflwyddiant, ac ystum neu bwyslais anmhriodol wrth ei thraddodi, yn achlysuru damnedigaeth enaid. Saif rhwng dwy blaid elynol a dig, ac y mae ei sefyllfa yn gofyn dwysder, gwroldeb, ac onestrwydd anarferol, i osod gerbron dynion dilerau yr iechydwriaeth, a'r canlyniadau cyfl'rous o'ugwrthod: " Oni íefari di i rybuddio yr annuwiol o'i ffördd, ei waed ef a ofynaf ar dy law cli." Mae dyledswyddau yn nghlýn â'r weinidogaeth, a alwant am holl ddyfais, •medrusrwydd, ffyddlondeb, a llafur mwyaf egniol y doethaf a'r goreu o ddynion—mae i daro at wraidd y