Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR 1EUAIN.C. I Rhif. 49. IONAWR, 1851. Cyf. V. Ceimtaá Críát. " Fy rnrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwnj'—Aml y gelwir yr efengyl yn deyrnas. Nid yw Cristionogaeth yn ymhyraeth dim â phethau gwladol. Y mae a fyno hi â chyflwr moesol dynolryw. Ei hamcan y w dinystr- io peehod a llygredigaeth, a derchafu dynion i sant- eiddrwydd a dedwyddwch. Mae yn dwyn Iachawd- wriaeth ar gyfer dirywiad, ac y mae yn gwneud heb newid sefyllí'a dymorol neb. Llywodraeth ysbrydol yw ar feddyliaa, syniadau, cydwybodau, serchiadau, ac ewyllysiau dynion. Natdh teyhnas Crist.—" Nid yw o'r byd hwn." Nicl yw ei Brenin o'r byd hwn.—Y mae llawer o freninoedd wedi bod yn y byd, ond nid ydynt i'w gweled yn awr : mae eu breniniaethau wedi eu di- nystrio gan chwyldroadau amser, ac y mae eu gwedd- illion marwol yn cydorwedd yn yr un gwely llaith ; a buan y gosodir terfyn ar holl deyrnasoedd y byd a\u breninoedd; ond saif teyrnas Iesu yn dragywydd. Ei dystiolaeth ei hun ydyw, " Chwychwi sydd oddi- isod: minau sydd oddiuchod : chwychwi sydd o'r byd hwn ; minau nid wyí o'r byd hwn :'' loan 8, 23. Y mae holl amgylchiadau dyfodiad lesu i'r byd, ei daith drwy'r byd, a'i fynediad o'r byd, yn dangos mai Brenin ysbrydol yw. Pan ddaeth i'r byd, Bethlehern fechan anenwog oedd ei ddinas—preseb oedd ei wely —asyn oedd ei anifail—dilladoedd eigyfrwy—pysgod- wyr oedd ei weinidogion—cangau o'r gwŷdd oèdd ei fanerau—corsen oedd ei deyrnwialen—drain oedd ei goron, a'r groes oedd ei orseddfainc. Yr oedd yr holl bethau hyn yn dangos nad oedd ei frenhiniaeth o'r byd hwn, ond mai Brenin ysbrydol ydoedd. Nìd yio ei deiliaid o'r byd hwn.—" O'r byd nid ydynt, megys nad wyf finau o'r byd. Pe byddech o'r byd, y byd a garai yr eiddo ; ond oblegid nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis allan o'r byd, am hyny y mae y byd yn eich casâu chwi." Y mae Iësu Giisfc