Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR ÌËUALNC. Rhif. 36. RHAGFYR, 1849. Cyf. III. Mí MI ——BW 3 Y CROESGADAU. (PAttHAD.) Urban yr 2il oedd y Pab y pryd hwnw, un hynod alluog, dysgedig, a dyngarol. Yr oedd yn barod iawn i gymeryd i fynu ddyfais mor ffafriol i Babyddiaeth ag oedd y Croesgadau ; ond yr oedd sefyllfa Ewrop, yn enwedig Itali, y fath ag oedd yn gofyn ychydig bwyll cyn y buasai iddo ymddangos ar ben y gâd i'w har- wain allan i faes y gwaed, penderfynodd mai gwell fuasai pregethu Croesgadaeth o'r areithleoedd cyn y buasai iddo ei gorchymyn trwy ordinhad Babaidd. Gofynodd gan hyny i Peter y Meudwy fyned trwy holl Ewrop i gyífroi penboethni y bobl o blaid yr anturiaeth bwysig oedd wedi ymroddi iddi. Aeth y Meudwy yn galonog o dref i dref, ac o bentref i bentref, nes mewn llai na blwyddyn yr oedd wedi myned trwy hollEwrop. Yr oedd ei olwg ddyeithr, ei lygad craff a bywiog, ei lais gwichlyd, ei hyawdledd annaearol, natur gynhyrf- us ei bwnc, a'i ddarluniadau cyffrous o sef'yllfa Je- rusalem, ac o'r Cristionogion yno, yn cynyrchu y teimladau mwyaf bywiog yn mhob man ; bychander ei gorff, a dichweddrwydd ei ymddangosiad, ynghyd â'i ddoniau, a barai i'r Meudwy ymddangos yn ysbrydol- edig yn ngolwg llawer. Gwisgai am dano hugan wlanen, a mantell felen-goch hyd ei sodlau. Ei freich- iau a'i draed oeddynt noethion. Ni fwytäai ond ych- ydig iawn o fara, eithr byddai byw ar bysgod a gwin. Wedi i'r Meudwy ddychwelyd o'i daith íwyddianus, cyhoeddodd y Pab ei gymeradwyaeth o'i ymgyrch Groesgadawl; ac yn y fl. 1095, galwodd ddau gynghor yn y rhai y cydsiaradwyd am y pwnc :—y cynghor cyntaf a gynhaliwyd yn Placentia, yn Mawrth, 1095, lle yr ymddangosodd dau genad oddiwrth yr amher- awdwr Grnegaidd, Ale.mis, i ddeisyf am gymhorth yn erbyn y Twrciaid~yr hyn a addawyd. Cynhaliwyd yr ail gynghor yn Clennont, yn Tauhwedd, yn yr un flwyddyn, Ue y penderfynwyd ar y Croesgadau. E«- gynodd y Pab Urban yr areithfa, ac aneichodd dyrfa