Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

í>3 TYWYSYDD YR 1EÜAINC. Rhif. M. MEDI, 1849. Cyf. III. ©fogllfoîjr CrefuîJìJol. Y Mormoniaid.—Y dosbarth nesaf o dwyllwyr cref- ytldol yw y Mormoniaid, neu Seintiau y Dyddiau Di- weddar'. Dynodir hwy yn Formoniaid oddiwrth y llyfr a elwir Llyfr Mormon, yr hwn a ystyrir gan- ddynt hwy yn gynyrch datguddiad ysbrydoledig. Llyfr Mormon, yr hwn a gafodd ei gyhoeddi ddwy neu dair gwaith yn America, ac unwaith yn Mhrydain Fawr yn 1841, a ddaeth i fodoliacth fel y canlyn:—Er ys bagad o flynyddau yn ol, yr oedd dyn ieuanc o'r enw Joseph Smith, sylfaenydd, proffwyd, ac apostol y sect, yn dylyn yr alwedigaeth o gloddio arian yn yr Unol Daleithiau. Mae yn gredo gyffredin yn llawer o'r gororau arforawl fod symiau mawrion o arian bathawl, a llafnau mawrion o arian tawdd, wedi eu claddu yn y ddaear gan y brodorion cyntefig, a chan y rhai fuont â llaw yn y chwyldroad. Yn aml iawn y mae dynion cyfrwysddrwg yn cymeryd arnynt i fod yn alluog i gael allan, trwy gyfaredd, y lle yr oedd y trysorau hyny, În mhlith y rhai yr hynodai Joseph Smith ei hun. 'ra yr oedd yn ngafael â'r pethau hyn, a phethau o'r cyffelyb, dywed iddo dderbyn llawer datguddiad o'r nef yn nghylch sectau crefyddol y wlad a'r oes. Y tro cyntaf y ffafrwyd ef fel hyn, yr oedd, meddai ef, yn gweddio mewn coedwig ar i'r Arglwydd ddangos iddo pa un o'r sectau oedd y pryd hyny yn hanfodi oedd â'r gwirionedd ; ac yn nghanol ei daerineb llew- yrchodd goleuni mawr o'r nef uwch ei ben ef, a chod- wyd yntau i'w ganol; yno y gwelodd bersonau angyl- aidd, y rhai a ddywedasant wrtho fod ei holl bechodau ef wedi eu mafcldeu, fod y byd i gyd yn gyfeiliornus rr^ewn pethau crefyddol, ac y cawsai ef wybod y gwir- ionedd mewn amser priodol. Yr ail weledigaeth a ddatguddiodd i Smith mai gweddill diangol oedd yr Indiaid Americanaidd, a bod unwaith broffwydi a dynion ysbrydoledig yu eu mysg, gan y rhai yr oedd