Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TYWYSYDD YR ÌEUAINC. Rhif. 30. GORPHENAF, 1849. Cyf. III. Cíuyítluwr CrefüîJttot. (PABHAD o'r rhi^yn diweddaf, tu-dalbn 87.) Mit. Pierson, a'i gyfaill Mr, S., a gredont bob gair a ddywedai am dano ei hun y pryd hwnw, u phob amser ar ol hyny, gan nad pa mor gableddus ei honiadau. Yntau a'u cydnabyddai hwythau fel aelodau cyntaí' ei eglwys. Enw cyntaf Mr. Fierson oedd Elias, yr hyn a barodd i Mathews ddywedyd, ac iddo yntau gredu, mai corff Elias y Thesbiad oedd yr eiddo ef; a chan nad oedd Elias ond enw arall yn Malachi am Ioan, credai Pierson mai Ioan Fedyddiwr, rhagflaenor Iesu Grist oedd, ac mai Iesu Grist eihunan oedd Mathews, ac wrth yr enw hwn y mynai ei alw. Gwahoddwyd y proffwyd i drigianu yn mhalas Mr. S., rhoddwyd yr ystafelloedd goreu iddo, a'r holl deulu i fod dan ei ly wyddiaeth; hònai ei fod yn ddwyfol, yn gallu lladd a bywhau; ac yn fynych y gwelid y boneddwr yn golchi ei draed fel arwydd o'i ostyngeiddrwydd. Wedi cael y fath lety dysgodd y proffwyd ei ddysgybl- ion i droi ymprydio yn wledda; eu tai a'u llogellau oeddynt at ei wasanaeth, ac efe yn caru byw yn helaethwych beunydd, nid oedd terfyn ar y gwledd- oedd ; a mynai wisgoedd cyfatebol i'wsefyllfa ar draul Mr. S.; yr oedd gwregys slidanaidd am ei ganol, a deuddeg tysw aur yn cyfateb i ddeuddeg llwyth Israel yn crogi wrtho. Mwynhäai Mathews ei hun yn gysurus ; ei ymddangosiadau oeddynt auaml yn y cyhoedd; pregethai i gwm'ni etholedig a alwai " y Deyrnas;" cstroniaid a wahoddid, yn achlysurol, i wrando arno—ond yr oedd hyn yn í'raint fawr—nid oedd neb i ddweyd gair ond efe. Hònai ei fod wodi derbyn cynllun y " Jerusalem newydd'' oedd ef i adeiladu o'r nefoedd, yr hon oedd i ragori mewn mawredd ac ardderchawgrwydd ar ddim a welwyd yn Groeg a llhufain ; yr oedd i fod ar du gorllewin Caerefrog Newydd ; ei holl lestri oeddynt i íbd o aur