Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

/ -ft 0 y* - O ù - í " & ANHAWSDERAU BEIRNIADAETH. Adgofia ein darllenwyr, ddarfod i ni er's ychydig yn ol, gynyg yn wobr ein "Esboniad ar y Rhufeiniaid," am y Traethawd goraf er cysoni yr anhawsderan, neu y rhan fwyaf o honynt, a osodasom yn ein 2il rifya. Cawsom dri o Draethodau i law erbyn yr amser yn dwyn yr enwau, "Cysonwr," "Esyllyn," a "Saer Coed." Mae y tri yn fyr ar y testyn; y eyntaf yn ymddangos i fod yn gyfan- soddydd ieuanc, er yn meddu llaw'sgrifen dda; yr ail yn gystra- wenydd a sillebydd lled afreolaidd, er yn fwy ífodus yn ei atebion na'r cyntaf. Rhagora "Saer Coed" ar ei gydymgeiswyr o ran cy- wirdeb ei atebion ; ac yn ein tyb ni y goraf yw yr eiddo ef, er ei fod yn ol iddynt mewn llaw'sgrifen, a chan hyny anfoned ei enw i ni, a throsglwyddwn ni ei wobr iddo yntau. Dalied y tri ati, a diau genym y deuant yn awdwyr da. Wele y Traethawd buddugol, yn canlyn. Cofied ein darllenwyr na chydunwn â'i holl syniadau ; a phan gaffom hamdden, mynegwn ein barn. Wrth gynyg Traethawd i'eh sylw ar gysondeb y rhanau o'r Gair dwy- fol a osodwch i lawr, priodol yw i mi eich hysbysu nad wyf yn deall yr ieithoedd yr ysgrifenwyd y Beihl ynddynt; eto nid yw hyny yn fy ni- galoni, oblegid barnwyf y gallaf, wrth gymharu ysgrythyr ag ysgrythyr gyda gweddi, gael allan gysondeb mor bell ag i foddloni fy hnn beth bynag, er nad ydwyf ond unieithog, ac er y meddyliwyf fod yn ein Beibl Cymreig ni lawer o wall cyfieithiad. Yn awr, ynte, at yr ymdrecb. Dilynaf eich rhaniadau. 1, ac 2. Y dydd, a'r dyn. Meddyliwyf y gwelid cysondeb y rhai hyn wrth aralleirio Gen. 2, 4, 5, yn debyg i hyn:—Adn. 4, "Dyma hanej cened liad y nefoedd a'r ddaear pan grewyd hwynt, a'r dydd y creodd yr Arglwydd Dduw bob un o honynt." Adn. 5, "A hanes pob planigyn y maes cyn ei fod yn y dduear, a phob llysieuyn y maes cyn tarddu o honi. Cyn i'r Arglwydd wlawio ar y ddaear, a chyn i'r dyn ei llafurio hì." 3. Adar yn yr arch, y seithau a'r cyplau. Nid yw Duw yn rhwym i amlygu ei holl ewyllys ar unwaith. Amlygodd yn pen. 6, 19, 20, fod parau o bob rhyw i fod yn yrarch; ond yn pen. 7,2^8, amlygodtf Id M^ \w