Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN BROPHWYDOLIAETHAU DIWEDDAR. Yn mhob cyfnod o gynwrf politicaidd dygwydda yn gyson fod coflaid o hen brophwydoliaethau yn cael eu rhacanu i'r wyneb, a'r llwch yn cael ei sychu oddiar eu dalenau copynog, gydag esbon- iadau a syndod y Golygwyr. Felly yr oedd yn Ffrainc y Hynedd a'r flwyddyn flaenorol. Y cyfryw oedd y ffaith yn 1792; ac oddeutu yr amser hwnw dechreuodd ein hesbonwyr ninau ar y prophwydi ymloywi—y rhai Protestanaidd ym yn feddwl, mewn gobaith am gyflawniadau aruthrol. Y flwyddyn 1792 oedd ei lun yn ardderchog gyflawniad—cywir i'r flwyddyn—canys pendant gwblhad yr 1260 o flynyddau prophwydol ydoedd, o'u cyfrif o ddiwygiad mawr Justinian yn y fl. 532. A chan eu bod fel hyn yn cael y deongliad hwn yn gywir rhoddwyd cyffro dirfawr i'r astudiaeth hon, yr hwn sydd heb lonyddu hyd yma. Ffrainc, er hyny, gan ei bod yn wlad Babaidd, ni all dderbyn prophwydoliaeth yr un modd â'r Protestaniaid. Ni all hi ddal mai y Pab yn Annghrist, nac y bwystfil, nac unrhyw allu uffernol arall. Mae ganddi, gan hyny, gyfres hollol wahanol o ddeongl- iadau a phrophwydoliaethau—yr olaf o ba rai heb fod yn y gyfrol ddwyfol, ond mewn hen ysgrif-gopiau a thraddodiadau gwerinol— prophwydoliaethau gan fonachod a monachesau, astrologers a soothsayers—oll, wrth gwrs, yn Babyddion croywon, ac yn edrych arnom ni, Brotestaniaid, fel dynion pechod a meibion colledigaeth; tra gosodir ganddynt y Pab, yn lle yn Annghrist, yn barchus Dad Santaidd; tra, os gallant, y serchog gusanant ei draed. Mae gan bob pobl eu hysbryd eu hun, a'r ysbryd hwn a arddengys ffydd y bobl, pa beth bynag fydd hi. Ni ddysga byth un duwinyddiaeŵ newydd, ac ni uniona gamni un hen ddaliad nac arferiad, a alwont ya grefyddol. Yn mysg yr amrywiol brophwydoliaethau a dynant sylw y Ffrancod yn y blynyddan hyn, mae un ag a ddiweddar gyfieithiwyd i'r Saesoneg, ac a gyhoeddwyd gan Burno, o Portman Street, ilundain, gyda rhagarweiniad ac esboniadau, mewn llyfryn dwy