Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOLYGYDD. Rhif. 12.] RHAGFYR, 1846. [Pris 2c. ATHRAWIAETHAU, &c. AWDURDOD GWEINIDOG. [MEWN ATEBIAD I GYFR.ES O OFYNIADAU.] Dywed Paul yn Heb. xii, 7—" Meddyliwch ara eich blaenoriaid, y rhai a draethant i chwi air Duw, íiÿdd y rhai dilynwch, gan ystyried eu hymarweddiad hwy." Meddyliwch (mnemoneuete), to bear in mind; eu cadw yn eich raeddyliau mewn ystyr barchus o honynt, a gofalus am danynt. Dyna ystyr y gair yn y lle. Ni all un cofio arall droi allan yn un llesâd i neb. Blaenoriaid (oi egoumenoi), your leaders, chìefs. Arferir y gair yn y lleoedd canlynol, y rhai a ddyfynir fel y caffo'r darHénydd farnu drosto ei hun uwchben gair Duw:— Luc xxii, 2(5—" A'r penaf megys yr hwn sydd yn gweini." Act. xv, 22—" Gwyr rhugorol yn mhlith y brodyr." Heb. xiii, 17—" Ufyddhewch i'ch blaenorìaid, ac ymddarostyngwch." Heb. xiü, 24—" Anerchwch yr holl flaenoriaid, a'r holl saint." Act. vii, 10—'• Pharao a'i gosododd cf yn Ugwodraethwr."j Mat. ii, 6—" Nid lleiaf wyt ti yn mysg tywysogion Juda." Gwelwn oddiwrth arferiad y gair blaenor, yn y Testament Newydd, ei fod yn arwyddocâu un yn meddu awdurdod, ac hawl, a chymhwys- deráu, a gosodiad rheolaidd yn y swydd. Trown yn nesaf i Heb. xiii, 17; yno cawn fel hyn:—" Ufyddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch." Ufyddhewch (peithesthe), to a.s/ymt to, to obey, tofolìow; cydsynio a, ufyddhau i, dilyn. Wele arferiad y gair yn ein cystrawiad hwn:— (a) Act. v, 36, 37—" A chynnifer oll a itfyddhasant iddo a wasgarwyd." (b) Act. v, 40—" A chytuno â Gamaliel a wnaethanf."j (c) Act. îxiii, 21—" Ond na chytunn a hwynt." (d) Act. xxvii, 1—" V canwriad a gredodd i lywydd y llong." (e) Hhuf. ii, 8—" Ond yn ufydd i bob anghyfiawnder." (f) Gal. üi, 1—" Fel nad ufyddhaech i'r gwirionedd." (g) Iago iii, 3—" I wneyd y meirch yn ufydd i mi." Gwelwn fod yr aelodau i ddilyn eu blaenor, a chyiuno ag cf mewn wmdeithas, fel y gwnaed â Gainaliel; ac i geisio cytuno ag ef dan éì berswadiad (gwel c); ac i ymddiried ynddo ar bwnc o athrawiaeth u flyscyblaeth (gwcl d). Ymddcngys mai oherwydd eu swydd y gor- ẁymynir hyn.