Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOLYGYDD Rhif. 11.] TACHW.EDD, 1846. [Pris.2c. ATHRAWIAETHAU, &c. DIM GRWGNACH. Paul.—Gwnewch hob dim heb rwgnach nac ymddaclleu (Phîl. ii, 14). Annîbynwr.—Mewh Annibyniaeíh, y mac pob aelodyn rhy.dd, ac i gael dweyd ei f'arn, a siarad ei feddwl, heb nel) i'w attal mewn un man Beth all fod dy feddwl di, Paul, wrth y gair hwn, goggusmos, grwg- nach ? ... P.—Cewch yr un gair gan Ioan (pen. vii, 12) am furmur, lieb un siarad eglur ynddo; gan Luc (Act. vi, 1) am rwgnachiad eglur; gan Pedr (1 epist. iv, 9), am yr hyn sy'n groes i groesawiad calonog; a «han Moses (Exod. xvi, 7—9), am duchaniad Israel o eisieu cig. Fy'ystyr i yma i'r gair yw, dangosiad o anfoddlonrwydd mewn geiriau neu ymddygiadau. A.—Ond y mae un o'n brodyr ni yma i'w feio am rai pethau a wna; oni chaf ei geryddu am ei fai ? P.—Gwelíi ti fyned ato, ac â gwen dirion ei holi am y pethau hyn, canys dichon nad gwir a gly waist; ac os gwir; dichon fod amcan da gan y brawd, neu fod anwybodaeth o'r tu ol i'r wcithred, neu ryw csgus neu gilydd a'th foddlonai ar ei ran. Dos ato ef ei hun yn gyntaf dinn Gwna bob dim lieb rwgnach. A.—Y mae y pregethwr hefyd yn dywedyd ambell air anmhriodol yn y pwlpud ; os na chaf ei geryddu, efe a â yn mlaen yn ei gyfeiliom- ad, a byddaf finnau gyfrannog o'i fai ef. P.—Dylit ti ddarllen dy Fibl ar y pwnc, ac ar ol hyny ystyried pa nn ai efe ai tydi sydcl debycaf o 'focl yn ei ddeall oreu. Os cafodd efe fwy o fanteision na thydi, rhaicl ei fod yn iachach yn y ífydd na thi, oddieithr dy fod yn sicr ddarfod iddo gael gwersi cyfeiliornus yn ei athrofa. Gellit ti, os fclly y cafodd, fod yn iachach dy farn nag efe; er yn llai cly fanteision. A.—0, na chefais i; efe a gafodd fwyaf o fanteision o lawer iawn Ni wn i ond ün iaith, ac ychydig bach o'r iaith Saesonaeg, a gallwn rpi yr holl lyfrau deongliadol o'r Bibl a ddarllenais yn fy llogelíau ar unwaith; ond y mae genyf ddeall da o'r hyn a glywais gan yr" hen bobl o'r pwlpud hwn er's llawer dydd; a chan nacl yw ein gweinidog presennol o'r un farn â hwynt, rhaid ci fod yn heretlc. A oes eisieu athrofa i allu dweyd hyna ? P.—Gwna bob dim heb rwgnach. Os oedd yr hen bre»g.,cthwyr yn uwch eu oyrluuîddiadau nú'r un presennol, yr oeddynt yh sicrach » i,