Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOLYGYDD. Rhif. 10.] HtfDREF, 1846. [Pris 2c. ATHRAWIAETHAÜ, &c. ANHAWSDERAU YR ESBONWYR AR YR EPISTOL AT Y RHUFEINIAID. Nid yr hen arferiad o daflu pont dros bob rhwystr a dâl mwy wrth esbonio yr epistol hwn i'r Cymru. Pa fodd, yutc, y gwneir ? Yr ateb yw, y rhuid i ni wneyd ein goreu. Lle methom ddeongli wrth ein bodd, cyfaddef ein hanalluogrwydd. Dyna raid ei wneyd. Ond y mae lliaws o anhawsderan yn ein cyfarfod yn nghorff yr cpisto hwn; ac o ystyried cin credoau cyffredin ar ci gynnwysiad, ymddang- osant o'r bron yn anorfodadwy. Rhestrwn yma ryw fras-loffiad o honynt gerbron darllenydd y Goi.ygydd, fel y canfyddo ychydig o'r dasg sydd o'n blaen, ac y cyfodo cydyindeimlad yn ei fyrrwes tuag atom. 1. A raid i bob anfonedig Crist fod wedi derbyn neillflnad persûnol, fel y dywed y Mormoniaid ; ynte, na raid, fel y dywed Stuart, Calíin, ac ereill? (Adn. 1.) 2. Ai tcitì ar Grist fel person dwyfol yw " Mab Duw," fel y dywed Tholuck a Barnes ; ynte, arno fel y Messiah, fel y dywed Stuart ? (Adn. 4.) 3. Ai ei ',' ordeinio" yn Fab Duw, yn ol Clavius, Erasmus, Faber, a'r tadau Lladinaidd, a gafodd Crist; ynte ci "gyfansoddi" yn gyfryw, drwy ei adgyfodiad, a gafodd efe, yn ol ereill; ynte, ei " gyhoeddi a'i arddangos," yn ol Origen, Chrysostom, Cyril, Theophylact, Barnes, a'r cylieithad Syriaeg ; ynte, ei " benderfynu a'i osod," yn ol Stuart ? Pa fath Fab yw efe i Dduw, a benderfynir i ni yn ol y drefn yr esbonir yma. (Adn. 4.) 4. Ai " galwedigaeth" effeithiol gyda Stuart, Tholuck, Barncs, &c, ynte cyffredinol gyda Morgan, Limborch, &c, a ddywedwn sydd yn adn. 6, 7 ? 5. A oedd yr apostol yn gallu cyfranu doniau gwyrtldol, yn ol Bengel, Michaelis, &c.; ynte, cysuron eglwysig, yn ol Stuart a Barnes? (Adn. 11.) 6. Ai " gallu Duw" drwy ddylanwad dwyfol uniongyrchol y gair yn Haw yr Ysbryd, ynte yn llaw y pregcthwr yn unig, ynte gan jîr Ysbryd heb y gair, a fcddylir yn adn. 16 ? 7. Pa beth yw y "cyfiawnder Duw" a ddadguddir ynyrefenc^l