Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOLYGYDD. Rhif. 6.] MEHEFIN, 1846. [Pms 2c. ATHRAWIAETHAU, &o. PECHOD GWREIDDIOL. 4EIRNIADAETH AR Y TRAETHODAU ATEBIADOL (GWEL TUD. 97). '<) Mae gan y dosparth hwn dri gosodiad. " Nid oes gan un dt/n esgus am ei bechod." Da iawn ; canys pe idai esgus drosto, elai ei ddrwg o hyny yn llai. Diau fod gan * iynion yn aml esgus dros eu gweithred ddrwg, ond af ol tynu ymaith yr hyn oll o honi sydd ag esgus dano, y dechreua ei phechod hi; ac os ymestyn yr esgus dros hoU ranau y weithred, bydd yr holl weithred ya ddibechod. 2. *é Gosododd y Duw da bob dyn yn nghyfammod Adda." Os yw hyn yn gywir, mae tystiolaeth gredadwy drosto. Mae y peth mor he», nes nad oes un dystiolaeth ddigon credadwy arno, oddieithr ei chael yn y Bibl. Hanes y cyfammod sydd yn Gen. ii, 16, 17. Ei holl gyn- nwysiad yw hyn:-—"O bob pren o'r ardd, gan fwyta y gelli fwyta; ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta o hono; oblegid yn y dydd y bwytai di o hono, gan farw y byddi farw." Nid oes yma ddim yn y byd, ond (1) Caniatâu ffrwyth holl goed yr ardd ond un, yn ymborth i Adda. (2.) Nacâd o holl ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg iddo ef. (3.) Cyhoeddiad y byddai efe farw yn y dydd y bwytai o'r pren íjwnw. Nid oes air am un o bonom ni yn y cyfammod. Yr oll a gawn yn y Tostament Newydd ar ein perthynas â chyfammod Addá, yw dim. Dywedir, y mae yn wir, mai yn Adda mae pawb yn meirw —mai trwy un dyn y daeth pechod i'r byd—mai trwy gamwedd un y bu feirw llawer—mai o un camwedd y daeth y farn i gondemniad— mai trwy anufydd-dod un dyn y gwnaethpwyd lîawer yn bechaduriaid, &c.; ond am mai drwy ein bod yn y cyfammod Adamaidd y daeth i ni hyn, sydd heb air o dystiolaeth dano. Gan fod aml ffordd arall yji bosibl, nid dim llai nâ thystiolaeth y gair a dâl o dan yr haeriad dan sylw. Nis gallwn wobrwyo haeriad disail, boed ef can hened ag y bo. 3. "Mae y gair Adda, yn y cyfammod a'r trosedd o hono, i'tv ystŷried, nid am Adda fel person neu arddwr, ond am yr Adda o ddynolryw, yr Adda cyffredinol, yn yr hwn ystyrir pawb : pechoddpawb ynddo ; ae »id oedd mwy o fai ar Adda yn bersonol, nac arnom ninnau." Os dyna ystyr y gair Adda yn hanes y cyfammod, rhaid fod y Bibl yn hysbysu hyny. Eithr ofer chwilio am y pwnc; nid oes air o'r fath i'w gael. Os rhyw Adda cyffredinol oedd yn y cyfammod, Adda cyffredinoí a unwyd ag Efa, a lafuriodd yr ardd, a gencdlodd Cain ac Abel, ac a fu