Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYDYMAITH. Cyf. III.] IONAWR—MAWRTH, 1898. [Rhif 1. MR. WILLIAM OWEN, ABERMAW. Hyfrydwch genym ydyw gallu cyflwyno darlun o Mr. William Owen i dderbynwyr y " Y Cydymaith." Prin y mae angen ysgrifenu nemawr, gan fod gwrthddrych y darlun mor adnabyddus i bawb trwy yr oll o'r Gylchdaith. Ganwyd William Owen yn Aberdeunant, Plwyf Llandecwyn, Meirionydd, Ebrill i3eg, 1827, ac y mae yn awr yn yr oedran teg 0 70 mlynedd. Hana o gyff Ẃesleyaidd, a b.u ei dad a'i daid yn amlwg am ddwy genedlaeth yn Soar, Talsarnau. Yn wir, ei daid oedd y blaenor cyntaf fu ar yr eglwys enwog hono. Rhoddodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl ar nos Sabboth yn mis Awst, 1848, pan yr oedd y diweddar Barch. John Bartley yn pregethu yn Soar. Wedi cychwyn ar ei yrfa grefyddol yn foreu, y mae trwy ras Duw, wedi parhau yn ffyddlon a diargyhoedd hyd y dydd hwn. Dechreuodd bregethu ar yr 22ain o Dachwedd, 1857, ac felly, gwelir iddo eleni gyraedd ei 40 mlwydd oed fel pregethwr. Yn Penrhyn y tra- ddododd ei bregeth gyntaf oddiar Job ix. 4. Treuliodd yr oll o'r deugain mlynedd hyn ar y Gylchdaith hon, y rhan gyntaf pan yr oedd mewn undeb â Phorthmadog a'r gweddill mewn undeb â Dolgellau. Y mae yn ysgrythyr- wr cryf, ac yn feddyliwr egniol. Darllenodd lawer erioed o lenyddiaeth Gymreig, ac y mae ganddo gof gafaelgar a hynod wasanaethgar. Ym- ddifyra mewn gwrando pregethau, a threulio amser yn nghwmni pregeth- wyr i siarad am bregethu a phregethau. Ychydig geir a'u hadgofion yn fwy cyflawn a manwl, ac y mae ei adgofion lliosog, ynghyda ei ddonioldeb a'i ffraethineb naturiol, yn ei wneyd yn un diddan iawn yn ei gymdeithas. Cafodd gyfansoddiad iach, ac y mae trwy hyn, wedi gallu cadw agos bob ỳlan er pan ddechreuodd bregethu. Ni bu pellder ffordd, gerwinder tywydd, na dim arall erioed yn abl i'w rwystro i gadw ei blan. A dywed ef ei hun nad yw yn cofio iddo draddodi yr un bregeth ddwy waith i'r un gynulleidfa ond un waith, a hyny dan amgylchiadau neillduol. Ei hoff waith ydyw pregethu, ac y mae wedi cyflawni y gwaith hwn gydag ym- roddiad a ffyddlondeb nodedig er pan ymafiodd yn y gorchwyl. Cymerai ddyddordeb arbenig bob amser mewn pregethwyr ieuainc, a gwnaeth ei oreu yn wastad i'w calonogi a'u helpu. Y mae amrai yn y weinidogaeth heddyw y bu ei gymhellion a'i gynorthwy ef yn werthfawr iddynt pan yn dechreu pregethu. Ymhlith eràill, mae yr ysgrifenydd yn ddyledus iddo am lawer o gyfarwyddyd a chymorth yn nechreu ei yrfa, a chydag ef yr aeth allan y tro cyntaf erioed i geisio dweyd gair dros Grist o'r pulpud. Fel athraw yn yr Ysgol Sul, ac fel Blaenor Rhestr, y mae wedi llafurio yn ddyfal ar hyd y blynyddoedd, ac y mae bellach yn un o'r blaenoriaid hynaf yn y Gylchdaith. Y mae yn ddirwestwr selog a gweithgar. Etholwyd ef yn gynrychiolydd Cymdeithas Ddirwestol Abermaw fwy nag unwaith i Gymanfa Meirion. Yn 1896, etholwyd ef yn un o gynrychiolwyr y Gylchdaith i'r Cyfatfod Talaethol gynhelid yn Llanrwst. Saif yn uchel yn mharch ei eglwys a'i dref, Yn Mai, 1867, ymunodd mewn glân briodas