Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysorfa'r adroddwr. 233 GWERSI I'R ADRODDWR. IAWNSEINIAD LLYTHRENATJ. MR ein bod wedi ymdroi gydag amryw bethau cyn dod at y mater hwn, y cam cyntaf tuag at ddod yn adroddwr llwyddianus yw dysgu seinio pob llythyren yn groyw a chywir. Ni pherthyn i'u hiaith ni eiriau a gynwysant Jyth- yrenau na seinir, nag ychwaneg nag un llythyren a amrywia yn ei sain. Gwir mai anaml y ceir neb yn gwneyd sylw o'r p yn psalmau, psaltring, a geiriau cyfFelyb, wrth ddarllen y Beibl, ond geiriau estronol ydynt, ac am hyny ymddygir yn wahanol tuag atynt. Penod i'aith a phwysig yn ngwers-lyfr yr adroddwTr Seisnig yw yr un ar Articulation bob amser ; ond ni ddylai fod ar yr adroddwr Cymreig angen rhyw lawer o gyfarwyddiadau gyda golwg ar hyn, am y rheswm a nodwyd eisoes. Eto, rhaid cydnabod fod y mwyafrif braidd yn mhob cystadleuaeth Eisteddfodol yn cynauu rhai o'i geiriau uaill ai yn anghywir neu ynte yn aneglur. Cyfyd hyny oddiar un o'r achosion canlynol :— 1. Diffyg meddwl yn glir. Os bydd dyn hebgael nemawr o ddiwylliad meddyliol, mae yn y cyffredin yn gymysglyd o ran ei syniadau, ac yn debyg o fod yn ddifater ac aneglur o ran ei barabliad. Dywedir mai prin y gellir cydnabod fod iaith lafarol gan drigolion ynys Fernando Po. 2. Diffyg yn rhai o'r peirianau ymadrodd. Yn y benod ar Lythyreniaeth ceir bron yn mhob grammadeg y dosbarthiad hwn :— Gwefusolion ... b, f, ff, m, p, rh. Deintolion ... d, dd, n, s, t, th. Gorchfantoliou ... c, ch, g, ng, 1, 11, r. Nis gall dyn fo ag anaf ar ei wefusau seinio y chwech llythyren gyntaf yn glir, dyn fo wedi colli ei ddanedd natur- iol ac heb gael ei rai celfyddydol seinio yr ail chwech, na dyn ag anhwyldeb neu ddiffyg yn nhaflod ei eneu seinio y saith olaf. Pan fyddo dyn o dan effeithiau anwyd, ceir y lafar sain weithiau yn cael ei rhwystro yn ffordd y ffrcenau, a