Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFa'R ADRODDWfi. 201 GWERSI I'R ADRODDWR. TEIMLAD. "^^AE lle i ofni fod ambell adroddwr yn myn'd i'r esgyn- JLfiL lawr heb un nod uwch nag enill y wobr, ac oblegid hyny y mae braidd yn anmhosibl iddo ei henill. Y ddau amcan ddylai fod ganddo yw cyfiwyno y syniadau geir yn y dam yn glir i feddwl y gwrandawyra'u hargraffu ar lech eu calon, ac os llwydda i wneyd hyuy, bydd y wobr yn debyg o ddod fel canlyuiad naturiol. Ond cyn y gellir llwyddo i wneyd argraffar deimladau y dorf rhaid fod teimlad yn yr adroddiad. Dyma yr elfen fywydol sydd yn hanfodol i bob darn o natur gyffrous. Nid yw y rhan fwyaf o'r pethau y buom yn ymdrin â hwyntyn y Gbvrersi blaenorol ond aelodau perihynol i gorph yr adroddiad, y teiralad a ddangosir ac a gynyrchir yw yr enaid : ac y mae yu rhaid cael hwn cyn gellir cyfrif yr adroddiad yn ddim amgen ua chorff marw wedi ei drwsio ag addurniadau. Gofynodd pregethwr i uno brif actors Llundain ryw dro, " Paham yr ydych chwi y chwareuwyr yn cael mwy o ddylanwad ar eich gwrandawyr nag ydym ni y pregethwyr yn gael ? " Yr ateb gafodd oedd, " Yr ydych chwi yn dweyd gwirionedd fel pe na byddai ond ffug, yr ydym ninau yn dweyd ffug fel pe bai yn wirionedd safadwy." Cynwysai yr atebiad fwy na feddylir yn gyfîredin. Rhydd y prif actors ar y stage fywyd yn eu hadroddiadau, ac nid ymddangosiadol i gyd yw y teimladau a ddangosant. Maent wedi meistroli y gamp o weithio eu hunain i deimlad- au y personau a gynryehiolant, nes colli eu hunaniaeth weithiau braidd yn hollol yn y pymeriadau a osodant allan. Dywedai Quintilian ei fod wedi gweled actors, ar ol myned drwy ranau cynhyrfus, yn troi oddiar yr esgynlawr yn foddfa o ddagrau. Adroddir am y diweddar Barch. Azariah Sadrach ei fod yn pregethu mewn tŷ anedd ryw dro ar Abram yn aberthu Isaac. Wedi llwyr ymgolli yn ei bwnc, cymerai lyfrau oddiar astell oedd yn ei ymyl i ddangos y patriarch yn adeiladu yr allor. Darfu y Uyfrau cyn i'r allor gael ei gorphen, a safodd y pregethwr am fynyd, gan edrych yn wyllt oddiamgylch heb ddweyd \m gair. Ar y foment