Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysorfa'r adroddwr. 73 GWERSI I'R ADRODDWE. PWYSLAI8. 51 raid egluro mai yr hyn a olygir yn gyffredin wrth y gair hwn yw y pwys a rydd y llais ar ryw air neillduol mewn brawddeg. Y gwahaniaeth rhwng acen a phwyslais yw fod y naill yn disgyn ar sill, a'r llall ar air neu nifer o eiriau. Mae iddo ddau amcan. (1) Gosod allan feddwl y frawddeg. (2). Dangos teimlad yr adroddwr. Medda pob brawddeg ei meddwl arbenig, ond gellir rhoi iddi lawer pryd amryw feddyliau estronol, a'i hamddifadu o'i meddwl arbenig ei hun, drwy gyfnewid lle y pwyslais yn unig. Cymerer y frawddeg ganlynol fel engraifft:—" A ddarfu i chwigerdded i'r dref heddyw ? " Sylwer fel mae y meddwl yn cael ei newid drwy symud y pwyslais :— 1. À ddarfu i chwi gerdded i'r dref heddyw ? Gwnaeth- odd hyny y dydd o'r blaen, ond a gerddasoch chwi heddyw ? 2. A ddarfu i chwi gerdded i'r dref heddyw ? Cerdd- asoch i'r man a'r man, ond a gerddasoch i'r dref ? 3. A ddarfu i chwi gerdded i'r dref heddyw ? Buoch yn ei hymyl, ond a aethoch chwi i mewn iddi ? 4. A ddarfu i chwi gerdded i'r dref heddyw ? Gwn i chwi fod yno, ond ai cerdded y fFordd a wnaethoch ? 5. A ddarf u i chu.i gerdded i'r dref heddyw ? Cerddodd hwn a hwn, ond a wnaethoch chwi hyny ? 6. A ddarfu i chwi gerdded i'r dref heddyw ? Dywedir hyny, ond a yw y peth yn ffaith ? Dyna haner dwsin o feddyliau gwáhanol wedi eu rhoddi i un frawddeg, a dyna bump cyfieusdra i'r adroddwr i wneyd cam a'r awdwr, oblegid ni ellir rhoi mynegiad cywir i'w syniad ef onddrwy an o'rchwech pwysleisiad. Gwelsom arnbell gystadleuydd yn dal ar ei gyfieusderau. ju pwysleisio with a vengeance, ac yn ymddwyn í'el pe buasai wedi ymdynghedu i ddefnyddio yr ordd hon i daro allan y synwyr o bob brawddeg a safai o'i fiaen. Gwell peidio pwysleisio os na ellir gwneyd hyn yn iawn.