Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

trysorfa'r adroddwr. 73 CERDDORIAETH ANIAN. [ŵTERDDORIAETH buraf Anian, l£) Gyf una fraw a swyn, Drwy uchel drwst y daran, A sü yr awel fwyn ; Cynghanedd rymus, rymus, Gyflea'r môr a'i ru ; A chordiau melus, rnelus, Sisiala'r gornant gu. Cerddoriaeth nerthol Anian, Yn llais y dymhestl gref ; Fel sain is-alaw'r organ, A chwery yn y nef ; Tra'r gwynt yn rhuo, rhuo, A chwiban bob yn ail ; Mae'r tês yn dawnsio, dawnsio, Rhwng brigau'r coed a'r dail. Cerddoriaeth swynol Anian, Orleinw'r goedlan werdd ; Pob angel-gerddor bychan Enyna fflarn y gerdd ; O'u horiel, canu, canu, Wna côr yr adar mân, Gan fynych ddyblu, dyblu, Swynhudol nodau'r gân. Nathan Wyn. Y GOLEUDY. (AUtin o Bryddeet Gadeiriol Eiateddfod Llangranog, Awst, 1890.) [SILEUDY llon ar uchelderau'r wendon, UJ Goleuni llachar bywyd roddi weithiou, Pan fyddo'r storom yn dirgrynu'r glanau, A'r gwyntoedd broch yn cynddeiriogi'r tonau, Teyrnasoodd neifìon drwyddynt oll mewn gwewyr, Yn trefnu bedd i gladdu y môr-deithwyr.