Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRYSORFÄ'R ÄDRODDWR. TRYDYDD LLYFR. Y TELYNOR A'R AFON. íŵfYWEIRIAI hen delynor dahnau'i delyn Uä) Yn hydref oes, ond gwanwyn tirf y flwyddyn; Y blodau wenent arno mewn tlysineb, A gwenai 'i natur yntau mewn boddineb ; Cyfîroai cân yr adar yntau i ganu Nes swyno'r adar oll, a'u syfrdanu. " 0 feddrod y gauaf owyd blodau eu pen Fel saint 'r adgyfodiad cyn esgyn i'r nen ; 0 feddrod fy henaint, rhyw esgyn mewn nwyf Ieuangaidd wnaf finau, er hened yr wyf. Mae bywyd yn curo yn gryf yn fy mron, A chwydda fy mynwes yn dòn ar ol tòn— Y gwanwyn a'm gesyd yn ieuanc a llon." Fe redai afon lydan ger ei fron, A dawnsiai pelydr huan ar bob tòn, A llifai'n chwyrn a llon dros raian mân Tra llifai o'r telynor ffrwd o gân. Y gân gyrhaeddai glust morwynig dlos. Fel teithiwr gan hudlewyn yn y nos I'w delyn huclid hithau tua glan Yr afon chwern. Canfyddai yn y fan Delynor hen, ond llawn tynerwch mwyn Ei. lais a'i wedd a'i dalient fel a swyn ;